Cwpan Webb Ellis

Oddi ar Wicipedia
Cwpan Webb Ellis

Cwpan Webb Ellis yw'r tlws a wobrwyir i'r tîm buddugol yng Nghwpan Rygbi'r Byd, prif gystadleuaeth rhyngwladol rygbi'r undeb. Enwir y cwpan ar ôl William Webb Ellis, a ystyrir yn aml yn ddyfeisiwr y gêm. Dyfarnwyd y tlws i enillydd Cwpan Rygbi'r Byd ers y twrnamaint cyntaf ym 1987. Fe'i enillwyd dwywaith gan Seland Newydd (ym 1987 a 2011), Awstralia (1991 a 1999) a De Affrica (1995 a 2007), ac unwaith gan Loegr yn 2003. Mae'r tlws, sydd 38 cm o uchder, yn pwyso 4.5 kg; mae wedi'i wneud o arian wedi'i euro ac mae ganddo ddwy ddolen ar ffurf sgrôl. Ar un ddolen mae pen gafrddyn ac ar y llall mae pen nymff. Ar wyneb y tlws mae'r geiriau International Rugby Football Board ac o dan hynny The Webb Ellis Cup wedi'u harysgrifennu.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ceir dau Gwpan Webb Ellis swyddogol, a defnyddir y naill yn gyfnewidiol a'r llall. Gwnaed un ohonynt ym 1906 gan y cwmni o Lundain, Carrington & Co., yn seiliedig ar gynllun cwpan gan Paul de Lamerie yn dyddio'n ôl i 1740; mae'r llall yn gopi a wnaed ym 1986. I benderfynu ar gynllun y cwpan, ymwelodd John Kendall-Carpenter, trefnydd Cwpan Rygbi cynta'r Byd, a Bob Weighill, ysgrifennydd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (ill dau yn gyn-flaenwyr dros Loegr), a gemydd y Goron, sef Garrard & Co., yn Stryd y Rhaglaw, Llundain. Dangosodd Richard Jarvis, cyfarwyddwr y cwmni, y cwpan i'r ddau o ddaeargell y cwmni. [1] Dewiswyd y tlws ym mis Chwefror 1987, ac fe gymeradwywyd y dewis gan Ronnie Dawson o Iwerddon, Keith Rowlands o Gymru, Bob Stuart a Dick Littlejohn o Seland Newydd a'r Awstraliaid Nick Shehadie a Ross Turnbull.[1][2] Seland Newydd oedd y wlad gyntaf i ennill y tlws ym 1987; ers hynny mae pedair gwlad wedi ei ennill.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "The History of the William Webb Ellis Cup". wesclark.com. Cyrchwyd 2007-09-12.
  2. "Rugby Trophys". rugbyfootballhistory.com. Cyrchwyd 2007-09-12.