Corfilgi

Oddi ar Wicipedia
Corfilgi
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
GwladLloegr Edit this on Wikidata
Enw brodorolWhippet Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Corfilgi

Ci hela a rasio sy'n tarddu o Loegr yw'r Corfilgi,[1] y Milgi Bach[1] neu'r Wipet.[2] Croes rhwng y Milgi a daeargi neu sbaengi yw'r brîd hwn a ddatblygwyd yng nghanol y 19eg ganrif i gwrso ysgyfarnogod. Gall hefyd hela anifeiliaid bychain.[3]

Bu'r Corfilgi yn fychan o'r cychwyn, yn debyg i'r Milgi Seisnig, ac yn hwyrach cafodd y Milgi Eidalaidd ei gymysgu â'r brîd er mwyn rhoi golwg fain iddo. Mae ganddo gôt lefn a chwta, gan amlaf o liw llwyd, gwyn neu felyn. Mae ganddo daldra o 46 i 56 cm ac yn pwyso tua 13 kg. Gall redeg 56 km (35 mi) yr awr.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [whippet].
  2.  wipet. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Awst 2016.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) whippet. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Awst 2016.