Colombes
Oddi ar Wicipedia
Un o faesdrefi Paris a chymuned yn département Hauts-de-Seine yn Ffrainc yw Colombes. Saif i'r gogledd-orllewin o ganol Paris, yn arrondissement Nanterre, ac roedd y boblogaeth yn 1999 yn 76,757.
Ar un adeg, roedd y stadiwm yma, yn swyddogol Stade Olympique Yves-du-Manoir, ond yn gyffredinol "Stade Colombes" yn un o'r pwysicaf yn Ffrainc. Yma y cynhaliwyd seremoni agoriadol Gemau Olympaidd yr Haf, 1924, ac fe'i defnyddid ar gyfer gemau peldroed a rygbi rhyngwladol. Erbyn hyn mae wedi colli ei bwysigrwydd.
Pobl enwog o Colombes [golygu]
- Zoumana Camara, pêl-droediwr