Chwiorydd Loreto

Oddi ar Wicipedia
Chwiorydd Loreto
Enghraifft o'r canlynolreligious congregation Edit this on Wikidata
SylfaenyddTeresa Ellen Dease Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y fnedigaid Mary Ward, I.B.V.M., (1585–1645), sefydlydd yr urdd Gristnogol yn 1609.

Mae Sefydliad y Forwyn Fair Fendigaid (Saesneg: Institute of the Blessed Virgin Mary) yn urdd grefyddol Gatholig o fenywod sy'n ymroddedig i addysg a sefydlwyd yn Saint-Omer gan y Saesnes, Mary Ward, yn 1609.

Adnebir yr aelodau yn fwy cyffredin fel 'Chwiorydd Loreto' sy'n cymryd yr enw oddi wrth gysegrfa Mair yn Loreto yn yr Eidal lle'r oedd Mary Ward yn gweddïo. Cyhoeddwyd yr urdd yn un hybarch gan y Pâb Bened XVI ar 19 Rhagfyr 2009.[1] Mae Chwiorydd Loreto yn defnyddio'r talfyriad I.B.V.M. ar ôl eu henwau.

Heddiw mae'r gynulleidfa yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weinidogaethau newydd: rhaglenni llythrennedd, cyfeiriad ysbrydol, cynghori, rheoli llochesi i ferched digartref yn ogystal â sawl agwedd ar fudiad tuag at cyfiawnder a heddwch yn y byd.[2] Maent yn weithgar ymhob cyfandir.[3] Mae'r Chwiorydd Loreto yn gweithredu tua 150 o ysgolion ledled y byd, gan addysgu dros 70,000 o ddisgyblion.

Efallai eu haelod enwocaf oedd y diweddar Y Fam Teresa (26 Awst 1910 – 5 Medi 1997) a bu'n enwog am ei gwaith gyda thlodion Kolkata yn yr India.

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Roberts, Tom. "Mary Ward Named 'Venerable'", National Catholic Reporter, December 21, 2009
  2. "Website of Irish/North American Branch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-09. Cyrchwyd 2018-08-26.
  3. "About Us". Institute of the Blessed Virgin Mary, United States Province. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2018-08-26.