Chwaraeon Paralympaidd
Term am ystod eang o chwaraeon ar gyfer pobl â anableddau corfforol yw chwaraeon Paralympaidd'. Tra bod nifer o bobl â anableddau'n cymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden ar amryw o wahanol lefelau, mae chwaraeon Paralympaidd yn cyfeirio at y cystadlaethau a drefnir fel rhan o'r symudiad Paralympaidd rhyngwaldol. Trefnir a rhedir rhain odan orychwyliath y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol a chymdeithasau chwaraeon rhynwladol eraill.
Hanes [golygu]
Datblygodd chwaraeon wedi eu trefnu ar gyfer pobl â anableddau allan o raglenni adferiad meddygol. Cyflwynwyd chwaraeon fel rhan o adferiad wedi'r Ail Ryfel Byd, mewn ymateb i anghenion niferoedd mawr o gyn-filwyr a dinasyddion a oedd wedi eu anafu. Esblygodd chwaraeon fel adferiad i ddod yn chwaraeon hamddenol, ac yna i chwaraeon cystadleuol. Arloeswr yr ymdriniaeth yma oedd Ludwig Guttmann o Ysbyty Stoke Mandeville yn Lloegr. Ym 1948, tra roedd y Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal yn Llundain, trefnodd gystadleuaeth chwaraeon ar gyfer athletwyr mewn cadeiriau olwyn yn Stoke Mandeville. Dyma oedd tarddiad Gemau Stoke Mandeville, a esblygodd yn ddiweddarach i ddod yn y Gemau Paralympaidd cyfoes.
|
|
|
|---|---|
| Chwaraeon • Cyfrif medalau • Pwyllgorau Paralympaidd Cenedlaethol • Medalyddion | |
| Gemau'r Haf | 1960 • 1964 • 1968 • 1972 • 1976 • 1980 • 1984 • 1988 • 1992 • 1996 • 2000 • 2004 • 2008 • 2012 • 2016 • 2020 • 2024 • 2028 |
| Gemau'r Gaeaf | 1976 • 1980 • 1984 • 1988 • 1992 • 1994 • 1998 • 2002 • 2006 • 2010 • 2014 • 2018 • 2022 |