Charles Lindbergh
Charles Lindbergh | |
---|---|
Ffugenw | Careu Kent |
Ganwyd | Charles Augustus Lindbergh 4 Chwefror 1902 Detroit |
Bu farw | 26 Awst 1974 o lymffoma Kipahulu, Unol Daleithiau America |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | swyddog yr awyrlu, dyfeisiwr, aviation writer, hunangofiannydd, dyddiadurwr, peilot awyren ymladd, ymgyrchydd heddwch, hedfanwr, peiriannydd |
Tad | Charles August Lindbergh |
Mam | Evangeline Lodge Land |
Priod | Anne Morrow Lindbergh |
Plant | Charles Augustus Lindbergh Jr., Jon Lindbergh, Anne Lindbergh, Reeve Lindbergh, Land Lindbergh, Scott Lindbergh |
Perthnasau | Charles Henry Land |
Gwobr/au | Medal anrhydedd, Y Groes am Hedfan Neilltuol, Langley Gold Medal, Medal Aur y Gyngres, Orteig Prize, Gwobr Harmon, Medal Hubbard, Honorary Scout, Silver Buffalo Award, Wright Brothers Memorial Trophy, Medal Daniel Guggenheim, Gwobr Pulitzer ar gyfer Bywgraffiad neu Hunangofiant, Marchog Urdd Leopold, Time Person of the Year, Gwobr "Plus Ultra", Air Force Cross, Commandeur de la Légion d'honneur, Order of the German Eagle, FAI Gold Air Medal, Grande Médaille d'Or des Explorations, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan, Medal Ymgyrch America, Asiatic-Pacific Campaign Medal, Medal 'Buddugoliaeth' yr Ail Ryfel Byd, International Air & Space Hall of Fame, Scandinavian-American Hall of Fame, Oriel Anfarwolion Hedfan ac Amgueddfa New Jersey |
llofnod | |
Awyrennwr, awdur, dyfeisiydd, milwr, a fforiwr o'r Unol Daleithiau oedd Charles Augustus Lindbergh (4 Chwefror 1902 – 26 Awst 1974). Ganwyd ef yn Detroit, Michigan, yn fab i ymfudwr o Sweden. Daeth yn fyd-enwog am hedfan yn ddi-dor o Efrog Newydd i Baris ar yr 20fed a'r 21ain o Fai, 1927, yn ei awyren Spirit of St. Louis; ef oedd y cyntaf i gyflawni'r gamp hon.
Ym 1932 herwgipiwyd a llofruddiwyd ei fab, Charles, Jr.; gelwid hyn yn "Drosedd y Ganrif" ("the Crime of the Century") gan y wasg Americanaidd. Oherwydd ystranciau'r cyhoedd yn dilyn y digwyddiad hwn, ffodd Lindbergh a'i deulu i Ewrop am gyfnod; dychwelasant i'r Unol Daleithiau ym 1939. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, roedd Lindbergh yn wrthwynebus i'r syniad y dylai'r Unol Daleithiau chwarae rhan yn y rhyfel; roedd hefyd yn edmygu rhai o syniadau hiliol y Natsïaid yn yr Almaen. Bu faw yn Hawaii yn 72 oed.