Castries
Oddi ar Wicipedia
Prifddinas a dinas fwyaf Saint Lucia yn y Caribî yw Castries. Mae ganddi boblogaeth o 10,634 gyda 37,962 o bobl yn yr ardal drefol a 61,341 yn Rhanbarth Castries. Fe'i lleolir ar lan bae cysgodol yng ngogledd-orllewin yr ynys. Sefydlwyd Castries gan y Ffrancwyr yn yr 17eg ganrif fel "Carenage". Ail-enwyd y ddinas yn y 18fed ganrif ar ôl Charles Eugène Gabriel de La Croix, marquis de Castries. Heddiw, mae'r ddinas yn gyrchfan dwristaidd gydag angorfa ar gyfer llongau mordaith a sawl traeth gerllaw. Mae'r harbwr yn allforio llysiau a ffrwythau trofannol megis bananas.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Cyngor Dinas Castries