Castel del Monte, Puglia

Oddi ar Wicipedia
Castel del Monte
Mathcastell Hohenstaufen yn ne'r Eidal, military museum building, Italian national museum, historical park museum, Q124830411 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 29 Ionawr 1240 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAndria Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd540 m², 1,806 m² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.084754°N 16.270935°E Edit this on Wikidata
Cod post70031, 76123 Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Gothig Edit this on Wikidata
PerchnogaethCyngor Gweinidogion yr Eidal Edit this on Wikidata
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd, ased diwylliannol yr Eidal Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganFfredrig II Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddmarmor, calchfaen Edit this on Wikidata

Castell yn ne-ddwyrain yr Eidal yw Castel del Monte ("Castell y Mynydd"), sy'n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Saif ar fryn y tu allan i ddinas Andria yn rhanbarth Puglia.[1]

Fe'i hadeiladwyd yn ystod y 1240au gan Ffredrig II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Mae ei gynllun wythonglog yn anarferol iawn ac y mae haneswyr wedi dadlau ynghylch ei bwrpas. Nid oes ganddo ffos na phont godi ac roedd rhai yn ystyried na chafodd erioed ei fwriadu fel caer amddiffynnol; fodd bynnag, mae gwaith archeolegol wedi awgrymu ei fod wedi ei amgylchynu gan fur allanol yn wreiddiol. Yn y 18g ysbeiliwyd marblis mewnol y castell a'r dodrefn a oedd yn weddill.[2]

Mae delwedd y castell yn ymddangos ar y fersiwn Eidalaidd o'r darn arian 1 sent yr Ewro-floc.[3]

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hubert, Houben. "Castel del Monte". Federiciana. Enciclopedia Italiana. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2011.
  2. Tuulse, Armin (2002), Castles of the Western World, Dover Publications, pp. 60–61, ISBN 0-486-42332-8, https://archive.org/details/castlesofwestern0000tuul/page/60
  3. "Images of Euro Coins - 1 cent". Cyrchwyd 20 Tachwedd 2022.