Car diyrrwr

Oddi ar Wicipedia
Car diyrrwr
Mathcar, automatic transport system, autonomous vehicle Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Junior, Volkswagen Passat robotaidd ym Mhrifysgol Stanford, Hydref 2009.
Firebird II, General Motors', 2007

Mae'r car diyrrwr neu gar robotaidd yn fath o gerbyd sy'n cael ei yrru gan feddalwedd oddi fewn i'r car yn hytrach nag yn ddibynnol ar berson i'w yrru. Synhwyra'r amgylchedd o'i gwmpas gyda thechnolegau cyfoes fel radar, gps neu lidar; gall gyflymu, arafu a brecio a llywioi'r cerbyd heb i'r gyrrwr dynol wneud dim. Daethant i fodolaeth, fel prototeips arbrofol yn 2014, ac roedd yr unig gar masnachol a oedd ar gael yn fath o 'wennol' trefol, araf: tua 12 milltir (20.1 km/a) yr awr.[1]

Defnyddir radar i syhwyro beth sydd o amgylch y car yn ogystal â lidar, GPS, camerau goddefol, gweledol a synwyryddion uwchsonig. Mae'r meddalwedd yn dod a'r rhain at ei gilydd ac yn ceisio rhagweld llwybr cerbydau a gwrthrychau eraill, gan nafigeiddio'r cerbyd yn saff.[2][3] Drwy 'ddarllen' arwyddion a derbyn gwybodaeth real am y llwybrau maen nhw'n ei drafaelio, gallant uwchraddio'r wybodaeth ar gyfer ceir eraill. Hynny yw, uwchlwythir y wybodaeth newydd i'r cwmwl gan uwchraddio'r mapiau o fewn eiliadau.

Arbrofwyd gyda rhai elfennau o'r car diyrrwr yn y 1930au a'r 1940au.

Lefel o annibyniaeth[golygu | golygu cod]

Gall y car a'r gyrrwr fod yn gwbwl annibynnol o'u gilydd neu fe all y gyrrwr gadw rhywfaint o reolaeth ar y car. Yn yr Unol daleithiau, mae'r Weinyddiaeth dros Drafniadiaeth y Priffyrdd (National Highway Traffic Safety Administration (NHTSA)) wedi trefnu graddfa o annibyniaeth a chânt eu dosbarthu fel hyn:[4]

Toyota Prius yn defnyddio system Google i yrru'r car
  • Lefel 0: Mae'r gyrrwr mewn rheolaeth llwyr o'r cerbyd drwy'r amser
  • Lefel 1: Mae rhai elfennau (neu 'reolyddion') yn cael eu rheoli gan y cerbyd e.e. brecio mewn argyfwng
  • Lefel 2: Mae dau o'r rheolyddion yn cael eu rheoli ar yr un pryd gan y cerbyd a'r gyrrwr e.e. cruise control a rheolydd cadw llygad ar adael un o lonydd y briffordd
  • Lefel 3: Gall y gyrrwr drosgwlyddo'r rheolaeth yn gyfangwbwl i'r cerbyd, o dan amgylchiadau arbennig
  • Lefel 4: Mae'r cerbyd yn rheoli popeth sy'n ymweneud â diogelwch drwy gydol y daith, heb i'r gyrrwr ymyrryd ar unrhyw bryd. Gall hyn olygu fod y cerbyd, ar rai achlysuron, heb berson ynddo ac yn teithio ei hun.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. www.eweek.com; Induct Now Selling Navia, First Self-Driving Commercial Vehicle[dolen marw] adalwyd 6 Ionawr 2014
  2. Lassa, Todd (Ionawr 2013). "The Beginning of the End of Driving". Motor Trend. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-17. Cyrchwyd 1 Medi 2014.
  3. European Roadmap Smart Systems for Automated Driving Archifwyd 2015-02-12 yn y Peiriant Wayback., European Technology Platform on Smart Systems Integration (EPoSS), 2015.
  4. "U.S. Department of Transportation Releases Policy on Automated Vehicle Development". National Highway Traffic Safety Administration. 30 Mai 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-19. Cyrchwyd 18 Rhagfyr 2013.