Buzz (albwm)
Buzz | ||
---|---|---|
Albwm stiwdio gan Pry Cry | ||
Rhyddhawyd | Ebrill 2012 | |
Label | Disglair |
Albwm cyntaf y grŵp Pry Cry yw Buzz. Rhyddhawyd yr albwm yn Ebrill 2012 ar y label Disglair.
Ymddangosodd albwm cyntaf Pry Cry i’w lawr lwytho am ddim o wefan disglar.net ym mis Ebrill. Mae’r grŵp sy’n cynnwys Kerry Walters, Gronw Roberts, (Cofi Bach a Tew Shady) ac Endaf Roberts (Kentucky AFC) ac wedi bod yn cydweithio ers 2009. Mae’r albwm yn gasgliad o arddulliau amrywiol sy’n cynnwys gwerin, gwlad, roc ac electro gyda thraciau fel ‘Colli’n Meddwl’ a ‘Diwrnod Braf’.
Dewiswyd Buzz yn un o ddeg albwm gorau 2012 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]
Canmoliaeth[golygu | golygu cod]
O gân i gân maen nhw’n newid pwy sy’n chwarae pa offeryn, mae’r caneuon yn amrywio o jazz i ffync i roc, mae’r geiriau’n llithro o’r dwys i’r digrif
—Casia Wiliam, Y Selar