Bryn Gwyn, Chubut

Oddi ar Wicipedia

Lleolir pentref bychan Bryn Gwyn mewn ardal cefn gwlad yn rhan isaf nyffryn Chubut yn ne'r Gaiman yn Y Wladfa, Yr Ariannin. Bryn Gwyn yw enw'r ardal o gwmpas y pentref hwnnw hefyd.

Ceir ysgol gynradd ac ysgol uwchradd ym Mryn Gwyn. Yno hefyd ceir Capel Seion, sydd wedi ei ddynodi yn safle treftadaeth hanesyddol cenedlaethol.

I'r de o'r Bryn Gwyn ceir Parc Paleontolegol Bryn Gwyn (Parque paleontológico Bryn Gwyn), y cyntaf o'r fath yn America Ladin, lle ceir nifer o ffosilau creaduriaid cynhanesyddol y gadawyd eu gweddillion yno dros gyfnod o 40 miliwn o flynyddoedd.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]