Breuan

Oddi ar Wicipedia
Breuan
Mathstone tool, hand mill, grinding equipment Edit this on Wikidata
Yn cynnwyssaddle quern, muller, grain rubber Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Carreg uwch breuan a ddaganfuwyd yng Ngogledd yr Alban

Erfyn carreg a ddefnyddid er mwyn melino ystod eang o ddeunyddiau â llaw oedd y freuan. Caent eu defnyddid mewn parau, gydag un garreg sefydlog ar y gwaelod, ac un ar ei phen a gâi ei throelli. Cawsant eu defnyddio am y tro cyntaf yn yr oes Neolithig er mwyn melino grawnfwydydd yn flawd. [1]

Enghreiffitiau unigol[golygu | golygu cod]

  • Cafwyd darn o freuan yng nghloddfa Oes yr Haearn yn nyffryn Abergwyngregyn yn 2007.

Mathau o freuan[golygu | golygu cod]

Mae dau faen yn ofynnol i wneud par o feini y felin hon. Mae'r isaf yn grwbi a'r uchaf yn geuol, yr hwn a roddir am yr isaf fel dodi het am ben. Mae y meini cyntefig at faint meipen go fawr, neu ben dyn, ac eraill diweddarach yn debyg i faen llifo bychan, ac eraill diweddarach eto yn meddu rhychau i gario y blawd allan, fel meini y melinau dwfr presennol. Ceir hwynt yn y mynydd a'r hendref, ac yn fynychaf yn nghytiau crynion y ddau le, ac wrth ffosio, dyfndroi y tir, neu ladd mawn. Caed amryw o bryd i bryd yn mawnogydd Gwaen Gynfi, Deiniolen.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]