Brenhinllin y Qin

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Tiriogaeth Ymerodraeth Tseinia dan y Qin
Yr Ymerodr Qin Shi Huang

Pumed brenhinllin fawr Tsieina, yn dilyn brenhinllinoedd y Xia, y Shang, Brenhinllin Zhou Gorllewinol a Brenhinllin Zhou Dwyreiniol. Rheolodd y Qin Tseinia rhwng 221 a 207 C.C..

Dim ond dau ymerodr Qin a reolodd:

Qin Shi Huang, "Yr Ymerodr Cyntaf", enw bedydd Ying Zheng (teyrnasodd 221-210 C.C.).
"Yr Ail Ymerodr" (ei unig deitl swyddogol), enw bedydd Hu Hai (teyrnasodd 209-207 C.C.).


Er mai byr oedd parhâd y Qin mae eu teyrnasiad yn beysig iawn yn hanes Tsieina oherwydd nhw a sefydlodd o'r ymerodraeth o'r newydd yn sgîl y cyfnod cythryblus o anhrefn a rhyfel a elwir Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar ("The Warring States Period" yw'r ymadrodd Saesneg arferol). O gyfnod y Qin ymlaen atgyfnerthwyd Mur Mawr Tsieina yn gyson. Y Qin hefyd a greodd yr amgylchiadau angenreidiol o heddwch a sefydlogrwydd ar gyfer blodeuo iaith a diwylliant Tseinia a chychwyn cyfnod Clasurol yn ei hanes.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • K.C. Latourette, The Chinese: their history and culture (Llundain, 1964)
  • William Watson, Early Civilization in China (Llundain, 1966)


Eginyn erthygl sydd uchod am Tsieina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol