Boars Hill

Oddi ar Wicipedia
Boars Hill
Mathpentref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolWootton
Daearyddiaeth
SirSwydd Rydychen
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.719°N 1.297°W Edit this on Wikidata
Cod OSSP485025 Edit this on Wikidata
Cod postOX1 Edit this on Wikidata
Map

Pentref yn Swydd Rydychen, De-ddwyrain Lloegr, ydy Boars Hill.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Wootton yn ardal an-fetropolitan Vale of White Horse. Roedd y plwyf yn Berkshire nes i newidiadau ffiniau 1974 ei drosglwyddo i Swydd Rhydychen.

Roedd nifer o feirdd amlwg yn byw yma. Y cyntaf oedd Margaret Louisa Woods yn yr 1880au. Fe'i dilynwyd gan Robert Bridges a John Masefield, a oedd ill dau yn Fardd Llawryfog. Am ychydig flynyddoedd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, ymunodd tri o'r beirdd rhyfel â nhw: Robert Graves, a oedd yn denant i Masefield, Edmund Blunden, a Robert Nichols. Parhaodd merch Bridges, y bardd Elizabeth Daryush, i fyw yma hyd ei marwolaeth ym 1977.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 28 Ionawr 2021
Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Rydychen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.