Birka

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Croes Ansgar

Gweddillion tref o Oes y Llychlynwyr yn Sweden yw Birka. Saif ar ynys Björkö yn Llyn Mälaren, tua 30km i'r gorllewin o Stockholm.

Sefydlwyd Birka tua chanol yr 8fed ganrif a datblygodd i fod yn ganolfan fasnachu bwysig. Yma yr oedd y gymuned Gristnogol gyntaf yn Sweden, a sefydlwyd gan Sant Ansgar ynj 831. Gadawodd y trigolion y safle yn aill hanner y 10fed ganrif. Dynodwyd Birka yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1993.