Bill Maher
Oddi ar Wicipedia
Digrifwr ar ei sefyll, cyflwynydd teledu, sylwebydd gwleidyddol, awdur ac actor o Americanwr yw William "Bill" Maher, Jr. (ganwyd 20 Ionawr 1956). Mae'n cyflwyno'r sioe Real Time with Bill Maher ar HBO, ac ynghynt cyflwynodd sioe sgwrs debyg o'r enw Politically Incorrect ar Comedy Central ac ABC. Ymysg y pynciau mae'n beirniadu mae crefydd, gwleidyddiaeth, cywirdeb gwleidyddol, gwrthddeallaeth, a'r cyfryngau torfol.