Biafra

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Biafra

Gwladwriaeth a ffurfiwyd trwy ymwahanu oddi wrth Nigeria yn 1967 oedd Gweriniaeth Biafra. Bu mewn bodolaeth hyn Ionawr 1970, pan roddwyd diwedd arni gan fuddugoliaeth llueoedd arfog Nigeria yn Rhyfel Cartref Nigeria.

Ffurfiwyd gwladwriaeth Biafra yn ne-ddwyrain Nigeria, yn bennaf gan aelodau llwyth yr Igbo neu Ibo. Roedd hyn yn ganlyniad anghydfod ar seiliau economaidd, diwylliannol a chrefyddolrhwng grwpiau ethnig Nigeria. Ar 30 Mai, 1967, cyhoeddodd Chukwuemeka Odumegwu Ojukwu, llywodraethwr milwrol Rhanbarth Dwyreiniol Nigeria, fod y rhanbarth o hynny ymlaen yn wladwriaeth annibynnol dan yr enw Biafra.

Cydnabyddwyd Biafra fel gwlad annibynnol gan lywodraethau Gabon, Haïti, Côte d'Ivoire, Tanzania a Zambia. Cawsant gymorth gan Israel, Ffrainc, Portiwgal, Rhodesia, De Affrica a'r Fatican.

Ymateb llywodraeth Nigeria oedd ymdrech filwrol i ad-uno'r wlad. Wrth i sefyllfa filwrol Biafra waethygu yn 1969, dechreuodd newyn yno. Credir i dros filiwn o bobl farw yn y rhyfel neu o newyn. Bu'r digwyddiadau yma yn sbardun i greu y mudiad dyngarol rhyngwladol Médecins Sans Frontières ("Doctoriaid heb Ffîn").