Beth wneir â merch benchwiban (cân)

Oddi ar Wicipedia
Beth wneir â merch benchwiban
Enghraifft o'r canlynolgwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata

Cân werin draddodiadol yw Beth wneir â merch benchwiban. Enghraifft o ganu Hen Bennillion.

Geiriau[golygu | golygu cod]

Beth wneir â merch benchwiban
Beth wneir â cheffyl bychan?
Beth wneir â thaflod heb ddim gwair?
Beth wneir mewn ffair heb arian?

Wel rhoi y ferch benchwiban
I werthu’r ceffyl bychan,
A chadw’r daflod nes dêl gwair
A mynd i’r ffair â’r arian.

Beth wneir â stên heb waelod?
Beth wneir â chath heb lygod?
Beth wneir â’r mês heb ddim o’r moch?
Beth wneir â chloch heb dafod?

Ni ddeil ystên ddiwaelod,
Ceir boddi cath heb lygod,
A phlannu mês os na fydd moch,
A chrogi cloch heb dafod.