Bastia
Oddi ar Wicipedia
Dinas a commune ar ynys Corsica yw Bastia. Hi yw prifddinas département Haute-Corse.
Saif Bastia ar arfordir gogledd-ddwyrain Corsica, gerllaw penrhyn Cap Corse. Mae'n borthladd pwysig, ac yn enwog am y gwin a gynhyrchir yn yr ardal. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 39,016.