Basse-Terre
Oddi ar Wicipedia
- Am brifddinas Saint Kitts a Nevis gweler Basseterre. Gweler hefyd Ynys Basse-Terre.
Basse-Terre yw prifddinas Guadeloupe, rhanbarth tramor Ffrengig sy'n un o départements Ffrainc yn y Caribî. Lleolir Basse-Terre ar arfordir de-orllewinol Ynys Basse-Terre, hanner gorllewinol Guadeloupe.
Er mai hi yw'r brifddinas, Basse-Terre yw'r ail ddinas fwyaf yn Guadeloupe ar ôl Pointe-à-Pitre. Mae gan ardal ddinesig Basse-Terre boblogaeth o 44,864 (1999) gyda 12,400 ohonynt yn byw yn ninas Basse-Terre ei hun.
Sefydlwyd y ddinas gan y Ffrancod yn 1643. Ceir sawl adeilad o'r cyfnod trefedigaethol ynddi, yn cynnwys Eglwys Gadeiriol Saint-Pierre-et-Saint-Paul a godwyd yn y 19eg ganrif.