Balasana (Y Plentyn)

Oddi ar Wicipedia
Balasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas penlinio Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Asana (neu osgo'r corff) o fewn ioga yw Bālāsana (Sansgrit: बालासन), neu Y Plentyn,[1] neu weithiau Plentyn yn Gorffwys. Mae'n asana penlinio, ac fei'i ceir mewn ioga modern fel ymarfer corff. Y Balasana yw'r asana croes i sawl osgo arall, ac fel arfer caiff ei ymarfer cyn ac ar ôl Sirsasana.[2]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit बाल bala, "plentyn" ac आसन āsana, "osgo neu siap" (y corff).[3]

Ni ddisgrifir Balasana tan yr 20g pan ymddangosodd yr osgo hwn yn y gyfrol Gymnasteg Gynradd gan Niels Bukh ym 1924.[4][5]

Darlunnir Ananda Balasana fel Kandukasana (Y Bêl) yn Sritattvanidhi yn y 19g.[6]

Amrywiadau[golygu | golygu cod]

Y Gwnhingen

Os oes angen, ac yn ystod beichiogrwydd, gall y pengliniau ledu oddi wrth ei gilydd.[7] Gall y breichiau hefyd gael eu hymestyn ymlaen o flaen y pen.[8]

Mae Ananda Balasana neu "Babi Hapus" yn ffurf wrthdro o'r asana hwn. Yma, mae'r corff ar y cefn, y cluniau ochr yn ochr â'r corff, y pengliniau wedi'u plygu a'r dwylo'n gafael ym mysedd y traed.[9]

Mae Uttana Shishosana neu "Ci Bach Cam Ymhellach" yn ymestyn y corff nes bo'r talcen yn gorffwys ar y llawr a'r cluniau'n fertigol, gan roi ystum canolradd rhwng Balasana ac Adho Mukha Shvanasana (Ci ar i Lawr).[10]

Mae Shasangasana (शसांगासन) neu "Y Gwningen", sy'n cael ei ymarfer yn Ioga Bikram, wedi'i godi nes bod y cluniau'n fertigol a'r pen a'r breichiau'n pwyntio'n ôl at y traed, gan greu hyblygrwydd dwys i'r asgwrn cefn.[11]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Child's Pose". Yoga Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Mai 2011. Cyrchwyd 2011-04-09.
  2. "4 Counter Poses to Do Before and After Headstand". Virginia is for Yoga Lovers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Tachwedd 2016. Cyrchwyd 2016-11-27.
  3. Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  4. Singleton, Mark (2010). Yoga body : the origins of modern posture practice. Oxford University Press. t. 200. ISBN 978-0-19-539534-1. OCLC 318191988.
  5. Bukh, Niels (2010) [1924]. Primary Gymnastics. Tufts Press. t. 32. ISBN 978-1446527351.
  6. Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace (arg. 2nd). Abhinav Publications. tt. 15, 70, plate 1 (pose 6). ISBN 81-7017-389-2.
  7. Lidell, Lucy; The Sivananda Yoga Centre (1983). The book of yoga. Ebury. tt. 37, 161. ISBN 978-0-85223-297-2. OCLC 12457963.
  8. YJ Editors (28 Awst 2007). "Child's Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 10 Chwefror 2019.
  9. Newell, Zo. "The Mythology Behind Ananda Balasana (Happy Baby Pose)". Yoga International. Cyrchwyd 8 Chwefror 2019.
  10. YJ Editors (28 Awst 2007). "Extended Puppy Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 10 Chwefror 2019.
  11. "Learn Sasangasana (Rabbit Pose)". Yoga International. Cyrchwyd 23 April 2019.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]