Bābil
Oddi ar Wicipedia
Un o daleithiau Irac yw Bābil (Arabeg: بابل). Mae'n gorwedd i'r de o ddinas Baghdad. Mae ganddi arwynebedd o 5,603 cilometr sgwar (2,163.3 milltir sgwar), ac amcangyfrifir fod tua 1,385,783 o bobl yn byw yno (2003).
Prifddinas y dalaith yw tref Al Hillah. Lleolir dinas Al Musayyib a safle olion dinas hynafol Babilon (Bābil, sy'n rhoi ei henw i'r dalaith) yno hefyd.
Llifa Afon Ewffrates trwy'r dalaith. Mae tua 60-70% o'r boblogaeth yn Fwslemiaid Sunni.
Dinasoedd a threfi [golygu]
- Al Hillah (500,000)
- Al Askandariyah
- Al latifiyah (150,000)
- Salman Pak
- Yousefiah
- Musayyib
- Jurf Al Sakhar
- Al Muhaweel (212,000)
| Taleithiau Irac | |
|---|---|
| Al-Anbar | Arbīl | Bābil | Baghdād | Al-Basrah | Dahūk | Dhī Qār | Diyālā | Al-Karbalā' | Kirkuk (At-Ta'mim) | Maysān | Al-Muthannā | An-Najaf | Nīnawā | Al-Qādisiyyah | Salāh ad-Dīn | As-Sulaymāniyyah | Wāsit | |
