Azilal
Oddi ar Wicipedia
Dinas fechan ym Moroco yw Azilal (Arabeg: أزيلا), a leolir ym mynyddoedd yr Atlas Uchel yng nghanolbarth y wlad, tua 130 km i'r dwyrain o ddinas Marrakech. Mae'n ganolfan weinyddol Talaith Azilal, yn rhanbarth Tadla-Azilal. Uchder: 1351 metr. Poblogaeth: 30,023 (2005).
Mae Azilal yn fan cychwyn i fynyddwyr sydd am ddringo Ighil M'Goun (4071 m), un o'r copaon uchaf yn yr Atlas. Yng ngyffiniau Azilal ceir Rhaeadrau Ouzoud (Cascades d'Ouzoud), un o atyniadau mwyaf poblogaidd y rhan yma o'r Atlas.
Mae'r ddinas yn ganolfan cludiant lleol gyda ffyrdd yn ei chysylltu gyda Marrakech a Kénitra.
Dolenni allanol [golygu]
- (Arabeg) Azilal-online, gwefan talaith Azilal