Aulus Plautius

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cadfrifog a gwleidydd Rhufeinig oedd Aulus Plautius (bu farw efallai tua 60). Mae'n fwyaf adnabyddus fel arweinydd yr ymosodiad Rhufeinig ar Brydain yn 43 OC.

Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am yrfa gynnar Aulus Plautius, ond ymddengys iddo fod a rhan mewn gorchfygu gwrthryfel caethweision yn Apulia, efallai yn 24, gyda Marcus Aelius Celer. Bu'n gonswl yn ail hanner 29, ac yn llywodraethwt talaith, efallai Pannonia, yn gynnar yn nheyrnasiad yr ymerawdwr Claudius.

Dewisodd Claudius ef i arwain yr ymosodiad ar Brydain. Glaniodd yn 43, gyda'r esgus o roi cymorth i Verica, brenin yr Atrebates, oedd wedi ei ddiorseddu gan y Catuvellauni. Roedd ganddo bedair lleng, IX Hispana, II Augusta, XIV Gemina, a XX Valeria Victrix, a thua 20,000 o filwyr cynorthwyol.

Gorchfygodd Aulus Plautius arweinwyr y Catuvellauni, Caradog a Togodumnus, mewn dwy frwydr, un ar Afon Medway a'r llall ar Afon Tafwys, yna arhosodd i ddisgwyl yr ymerawdwr Claudius cyn cipio prifddinas y Catuvellauni, Camulodunum (Colchester heddiw). Lladdwyd Togodumnus yn y brwydro, ond dihangodd Caradog tua’r gorllewin. Daeth Plautius yn llywodraethwr cyntaf Prydain, swydd a ddaliodd hyd y flwyddyn 47 pan olynwyd ef gan Publius Ostorius Scapula.

Dywedir i wraig Plautius, Pomponia Graecina, wisgo dillad galar am 40 mlynedd wedi marwolaeth ei pherthynas Julia, merch Drusus yr Ieuengaf, trwy law Claudius a Messalina. Yn 57 cyhuddwyd hi o ddilyn "ofergoelion tramor", efallai Cristionogaeth. Yn ôl cyfraith Rhufain, rhoddwyd hi ar brawf gan ei gŵr ym mhresenoldeb ei thylwyth, ac fe'i cafwyd yn ddieuog.