Attignéville

Oddi ar Wicipedia
Attignéville
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth200 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd14.61 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaHouéville, Removille, Tranqueville-Graux, Gémonville, Aouze, Barville, Harchéchamp Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.3858°N 5.8078°E Edit this on Wikidata
Cod post88300 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Attignéville Edit this on Wikidata
Map

Mae Attignéville yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Dwyrain Mawr, Ffrainc[1]

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae Attignéville wedi'i leoli yn nyffryn yr afon Vair, mae'r gymuned yn sefyll 13 km o Neufchâteau a 61 km o Épinal. Mae’n gymuned wledig lle mae’r tir yn cael ei rannu rhwng amlgnydio a choedwigaeth.

Mae’r afon Vair yn rhedeg ar ochr deheuol y gymuned gan ei rannu oddi wrth y cymunedau cyfagos Houéville a Barville.

Poblogaeth[golygu | golygu cod]

Safleoedd a Henebion[golygu | golygu cod]

  • Eglwys St. Lambert; sy’n cynnwys:[2]
  • Cerflun y Forwyn Trugaredd, Y Forwyn Fair yn crudo corff marw Crist. Mae’r cerflun yn dyddio o’r 16 ganrif ac wedi ei gofrestru fel heneb gan weinyddiaeth treftadaeth Ffrainc.
  • Allorlun y Croeshoeliad a'r Apostolion. Wedi ei ddyddio 1529, mae hefyd wedi ei gofrestru fel heneb gan weinyddiaeth treftadaeth Ffrainc
  • Cerflun y Forwyn a'r Plentyn, cerflun carreg amryliw o'r unfed ganrif ar bymtheg. Ar y gofrestr o henebion hanesyddol ers 2008
  • Cerflun Sant Évêque, cerflun carreg amryliw o'r unfed ganrif ar bymtheg. Wedi ei wisgo mewn tiwnig a chlogyn hir mae’r sant yn dal llyfr agored mewn un llaw ac fe’i harferai gario ffôn yn y llaw arall. Ar y rhestr o Henebion ers 1980
  • Cerflun Sant Lambert. Cerflun carreg amryliw o'r unfed ganrif ar bymtheg. Ar y gwaelod mae arysgrif: ". Sancte Lamberte ora Nobis pro" "Saint Lambert Gweddïwch i ni". Mae'r cerflun ar y rhestr o'r Henebion ers 1980
  • Croes y fynwent ddyddiedig 1684 wedi ei gofrestru fel heneb hanesyddol ers 1909
  • Nifer o olchdai
  • Ffynnon cafn.

Pobl enwog o Attignéville[golygu | golygu cod]

  • Charles Nicolas o Hennezel de Valleroy (1747-1833), Cadfridog ym myddin y Weriniaeth
  • Joseph Pérille o Boischâteau, yn cael ei adnabod fel Pérille-Lacroix (1804-1883 - Paris), Llywydd y Cwmni gwinwyddaeth Meurthe-et-Moselle, perchennog y castell a'r winllan yn Saint-Max a meistr haearn yn Attignéville
  • Maurice Bastide du Lud (1870-1960), mab Pérille-Lacroix, ysgythrwr a cherflunydd.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cymunedau Vosges

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Attignéville sur le site de l'Institut géographique national adalwyd 8 Ebrill 2017
  2. Base Mérimée, ministère français de la Culture
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.