Argyfwng y Gwahardd

Oddi ar Wicipedia

Cyfnod o ddadlau a chynnwrf gwleidyddol yn Nheyrnas Lloegr ynghylch olyniaeth y Brenin Siarl II, oedd Argyfwng y Gwahardd (1679–81) a ysgogwyd gan ymgyrch seneddol i rwystro'i frawd Catholig, Iago, Dug Efrog, rhag esgyn i'r orsedd.

Yn sgil datgelu'r Cynllwyn Pabaidd ym 1678, lledaenodd pryder y byddai Iago yn sefydlu brenhiniaeth Gatholig absoliwtaidd. Yn y tair senedd a alwyd rhwng 1679 a 1681, defnyddiodd y gwaharddwyr eu mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin i gefnogi mesurau i wahardd Iago o'r olyniaeth frenhinol, ond methodd pob un tro wrth i'r Brenin Siarl ddefnyddio'i frenhinfraint i ddod â'r broses ddeddfwriaethol i ben.

Yr oedd ymgyrch y gwaharddwyr yn erbyn Iago yn gais radicalaidd gan y Senedd i ddeddfu'r olyniaeth, yn groes i'r hen arfer o ildio i awdurdod dwyfol y frenhiniaeth, gan nodi trobwynt cyfansoddiadol yn hanes Lloegr. Argyfwng y Gwahardd oedd anterth y gwrthdaro rhwng y Goron a'r Senedd a fu'n byrlymu ers yr Adferiad ym 1660. Er i'r gwaharddwyr ennill cefnogaeth oddi ar nifer o'r werin wrth-Gatholig, arafodd y mudiad wrth i bobl ofni rhyfel cartref arall. Gwrthododd y Brenin Siarl alw'r Senedd eto ar ôl 1681, gan felly rhoi taw ar lais yr ymgyrch.

Senedd Mawrth 1679[golygu | golygu cod]

Lluniwyd y Mesur Gwahardd cyntaf gan y Senedd a alwyd ym Mawrth 1679. Ymatebodd y Brenin Siarl drwy ohirio'r Senedd ac yna ei diddymu yng Ngorffennaf 1679.

Senedd Hydref 1679[golygu | golygu cod]

Ymgynulliodd Senedd arall yn Hydref 1679, a phasiwyd ail Fesur Gwahardd yn Nhŷ'r Cyffredin. Bygythiodd y mesur y byddai'r Senedd yn rhwystro cyflenwadau i'r Goron nes iddi gael ei chydsyniad. Eto, diddymwyd y Senedd gan y Brenin.

Dadl y Ffieiddwyr a'r Deisyfwyr[golygu | golygu cod]

Mewn ymateb i'r gwaharddwyr, trefnwyd gwrthwynebiad gan y rhai a elwid "y Ffieiddwyr", am iddynt fynegi ffieidd-dod tuag at y rhai a feiddiai herio'r awdurdod brenhinol. Heb y ddadleufa seneddol i hyrwyddo'u hymgyrch, trodd y gwaharddwyr at lunio a chyhoeddi deisebau yn condemnio penderfyniad y Brenin i ohirio a diddymu'r seneddau, gan ennill felly yr enw "Deisyfwyr". Byddai'r ddwy garfan, y Ffieiddwyr a'r Deisyfwyr, yn ffurfio seiliau pleidiau'r Torïaid a'r Chwigiaid.[1]

Senedd Mawrth 1681[golygu | golygu cod]

Ym Mawrth 1681, galwyd y Senedd olaf yn ystod teyrnasiad Siarl II. Wedi iddi basio'r trydydd Mesur Gwahardd, fe'i diddymwyd yr ymhen wythnos.

Adladd[golygu | golygu cod]

Am weddill ei oes, heb y Senedd i'w ariannu, byddai'r Brenin Siarl yn dibynnu ar gymorthdaliadau o Goron Ffrainc. Yn sgil marwolaeth Siarl yn Chwefror 1685, esgynnodd Iago i orseddau Lloegr a'r Alban.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Chris Cook, Macmillan Dictionary of Historical Terms, ail argraffiad (Llundain: Macmillan, 1990), t. 124.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • J. R. Jones, The First Whigs: The Politics of the Exclusion Crisis, 1678–1683 (Rhydychen: Oxford University Press, 1961).
  • Mark Knights, Politics and Opinion in Crisis, 1678–81 (Caergrawnt: Cambridge University Press, 1994).