Anna, Duges Llydaw
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Anne o Lydaw)
Y Dduges Anna neu Anna o Lydaw, Llydaweg: Anna Vreizh, (25 Ionawr, 1477 - 9 Ionawr, 1514) oedd rheolwr olaf Llydaw annibynnol.
Ganed hi yn Naoned, yn ferch i Francis II, Dug Llydaw, ac yn etifedd y ddugiaeth. Yn 1488 gorchfygwyd byddin Llydaw gan fyddin Ffrainc, gyda chymorth 5,000 o filwyr cyflogedig o'r Swistir a'r Eidal. Gorfodwyd Francis II, i arwyddo cytundeb yn rhoi yr hawl i Frenin Ffrainc benderfynu ar briodas Anna. Gorfodwyd hi i briodi Louis XII, brenin Ffrainc, brenin Ffrainc, ac wedi ei marwolaeth ymgorfforwyd Llydaw yn Ffrainc trwy Ddeddf Uno yn 1532.
Priododd ei merch Claude (13 Hydref 1499[1] – 26 Gorffennaf 1524) Ffransis I, brenin Ffrainc.
| Rhagflaenydd: Francis II |
Dug Llydaw 1488–1514 |
Olynydd: Klaoda Bro-C'hall |