Ann Petry

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ann Petry

Awdures Americanaidd oedd Ann Petry (Hydref 12, 1908 – Ebrill 28, 1997). Hi oedd y wraig groenddu cyntaf i werthu dros filiwn o gopiau o nofel gyda The Street.

Fe'i ganwyd fel Ann Lane ar Hydref 12, 1908 yn Old Saybrook, Connecticut i deulu dosbarth canol. Aeth i ffwrdd i wneud PhD mewn Fferyllyddiaeth ond nid yna oedd ei chalon. Priododd yn Chwefror 22, 1938, i George D. Petry o New Iberia, Louisiana, a symudon nhw i Efrog Newydd. Dechreuodd ysgrifennu straeon byrion ond ei phrif waith oedd: The Street (1946) ennillydd y Houghton Mifflin Literary Fellowship Country Place (1947) The Narrows (1953)

Cyfeiriadau[golygu]

  • Condon, Garret “Ann Petry,” Hartford Courant Northeast, 8 Tachwedd 1992
  • Contemporary Authors Autobiography Series, Detroit: Gale Research Company, 1988.
  • McKay, Nellie. "Ann Petry's The Street and The Narrows: A Study of the Influence of Class, Race, and Gender on Afro-American Women's Lives." Women and War. Ed. Maria Diedrich and Dorothea Fischer-Hornung. Efrog Newydd: Berg, 1990.
  • Petry, Elisabeth, ed. Can Anything Beat White? A Black Family’s Letters. Jackson: University Press of Mississippi, 2005.
  • “English and the Urban Scene,” darlith a gyflwynodd i Adran Saesneg, Hartford Public High School ac NDEA Institute of Trinity College, Mawrth 6, 1969