Amgueddfa reilffordd genedlaethol, Efrog
Mae’r Amgueddfa reilffordd genedlaethol yn amgueddfa yn ninas Efrog, ac yr rhan o Grwp yr Amgueddfa Gwyddoniaeth. Mae’n gartref i gerbydau rheilffordd bwysig o Brydain a gweddill y byd a llwyth o bethau eraill gyda chysylltiad i’r maes.
Arddangosir dros 6000 o gerbydau a phethau eraill.[1] gan gynnwys dros 100 o locomotifau a cherbydau eraill. Denodd yr amgueddfa 782,000 o ymwelwyr yn ystod 2018/9. [2]
Dechreuodd datblygiad newydd i’r safle yn 2019.[3] Ail-leolir Ffordd Leeman, ac adeiladir mynedfa newydd i’r amgueddfa, yn dod y dau rhan yr amgueddfa at eu gilydd.[4]
Sefydlwyd yr amgueffa ar ei safle presennol, lle oedd depo locomotifau Gogledd Efrog ym 1975 gyda hen gasgliad Rheilffordd Brydeinig yn Clapham a chasgliad Amgueddfa Rheilffordd Efrog ar Heol Queen.[5] Mae mynediad am ddim i'r amgueddfa ers 2001 ac mae'n agor yn ddyddiol.
Mae hefyd Amgueddfa Rheilffordd Genedlaethol Shildon ers Hydref 2004 , yn gweithredu ar y cyd gyda Cyngor Sir Durham.[6], in defnyddio hen weithdy Timothy Hackworth ac adeilad newydd.
-
y neuadd fawr (1981)
-
Ymweliad locomotif Hogwarts Express, GWR dosbarth 4900 5972 Olton Hall (2004)
-
Cerflun o George Stephenson yn y neuadd fawr
Dolen allanol[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Gwefan yr Amgueddfa Gwyddoniaeth
- ↑ "Gwefan yr Amgueddfa Gwyddoniaeth" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-07-11. Cyrchwyd 2022-12-08.
- ↑ Gwefan yr amgueddfa
- ↑ Gwefan Cyngor Dinas Efrog
- ↑ "Gwefan yr amgueddfa". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-12-07. Cyrchwyd 2022-12-28.
- ↑ Railway Magazine, Rhagfyr 2004]