Amesbury, Wiltshire
Oddi ar Wicipedia
Tref a phlwyf sifil yn Wiltshire, Lloegr yw Amesbury. Poblogaeth: 8,907 (2001). Mae'n adnabyddus yn bennaf am fod Côr y Cewri (Stonehenge), un o henebion cynhanesyddol enwocaf y byd, yn gorwedd yn y pwlyf.
Lleolir Amesbury yn ne Wiltshire, wyth filltir i'r gogledd o Salisbury, yn nyffryn afon Avon ar ymyl Gwastadedd Salisbury ar y ffordd hanesyddol sy'n cysylltu Llundain a Warminster ac Exeter.
Ceir nifer o olion cynhanesyddol yn ardal Amesbury, yn cynnwys Côr y Cewri. Dengys tystiolaeth archaeolegol y bu gan y Rhufeiniaid bresenoldeb yno hefyd. Cysgegrwyd Gwion, Esgob Bangor gan Archesgob Caergaint yn Amesbury ar 22 Mai 1177.