Aleksey Musin-Pushkin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Aleksey Musin-Pushkin

Hynafiaethydd, casglwr celfyddyd a hanesydd o Rwsiad oedd Aleksey Ivanovich Musin-Pushkin (1744 - 1817). Fe bentyrrodd gasgliad enfawr o lawysgrifau gan gynnwys rhai o lawysgrifau pwysicaf y Rwsia ganoloesol, megis Llawysgrif Lawrentiaidd y Brut Cynradd Rwsieg a llawysgrif hynaf y Zadonshchina. Fe oedd yn gyfrifol hefyd am ddarganfod unig lawysgrif un o weithiau bwysicaf llenyddiaeth ganoloesol Rwsia, y Slovo o polku Igoreve ym 1800.


Baner RwsiaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.