Aix-les-Bains
Oddi ar Wicipedia
Tref a chymuned yn nwyrain Ffrainc yw Aix-les-Bains. Saif yn département Savoie a région Rhône-Alpes, gerllaw y Lac du Bourget.
Mae'r dref yn adnabyddus am y dŵr sy'n tarddu yn yr ardal, sy'n cael ei ystyried yn feddyginiaethol. Ymhlith yr adeiladau adnabyddus, mae'r Casino Grand Cercle a'r Château de la Roche du Roi.