Ahmed Sefrioui

Oddi ar Wicipedia
Ahmed Sefrioui
Ganwyd1915 Edit this on Wikidata
Fès Edit this on Wikidata
Bu farw25 Chwefror 2004 Edit this on Wikidata
Rabat Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMoroco Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, hunangofiannydd, casglwr straeon Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLa Boîte à merveilles Edit this on Wikidata
PlantAbdeslem Sefrioui Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Marcelin Guérin Edit this on Wikidata

Nofelydd Moroco yn yr iaith Ffrangeg oedd Ahmed Séfrioui (Ionawr 191525 Chwefror 2004).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn Fès yn 1915 i rieni Berber.[1] Sefrioui oedd sylfaenydd amgueddfa Al Batha yn Fès, tref sy'n bresennol ym mron ei holl ysgrifau. Erbyn cwblhau ysgolion Qur'an a chyhoeddus, roedd Séfrioui yn rhugl ei Ffrangeg. Daeth yn newyddiadurwr ar gyfer Action du Peuple ac yn awdur erthyglau hanesyddol fel curadur amgueddfa "Addoha". Ar ôl 1938 gweithiodd yn adrannau addysg, thwristiaeth a diwylliant y llywodraeth yn y prifddinas Rabat. Troswyd tair o’i straeon byrion o’i gasgliad cyntaf, Le Chapelet d'ambre, i’r Gymraeg yn 1978 gan Llinos Iorwerth Dafis. Bu farw yn 2004.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Le Chapelet d'ambre (Editions Le Seuil, 1949): casgliad o straeon byrion yn canolbwyntio ar Fès. Enillodd "le grand prix littéraire du Maroc" ar gyfer y llyfr hwn. Cyfieithwyd tri stori o'r casgliad gan Llinos Iorwerth Dafis – "Un Diwrnod ymhlith Diwrnodau", "Ewythr Hamad y Gwerthwr Sidan" ac "Y Llestr Prudd" – yn Storïau Ffrangeg Allfro, Storïau Tramor cyf. 6, gol. Mair Hunt (Gomer, 1978).
  • La Boîte à merveilles (Editions Le Seuil, 1954). Nofel am draddodiadau a bywyd dinesig Fès a oedd yn garreg filltir i lenyddiaeth Moroco.
  • La Maison de servitude (SNED, 1973)
  • Le Jardin des sortilèges ou le parfum des légendes (L'Harmattan, 1989)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Simon Gikandi (gol.), Gwyddoniadur Llenyddiaeth Affricanaidd (Taylor & Francis, 2003)
  2. Salim Jay, Dictionnaire des écrivains marocains (Eddif, 2005)


Baner MorocoEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Forociad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.