Aga Khan IV
Oddi ar Wicipedia
Dyn busnes, perchennog a bridiwr ceffylau rasio, ac Imam Ismailïaeth Nizari yw'r Tywysog Karim, Aga Khan IV, NPk, NI, KBE, CC, GCC, GCIH, GCM (Arabeg: سمو الأمیر شاہ کریم الحسیني آقا خان الرابع , ganwyd 13 Rhagfyr 1936). Ef yw 49fed Imam yr Ismailïaid Nizari, enwad lleiafrifol o Islam Shia sydd â 5-15 miliwn o ddilynwyr, llai na 10% o boblogaeth Shia'r byd.