Afon St Lawrence

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon St Lawrence

Afon yn nwyrain Canada yw Afon St Lawrence. Enw'r brodorion Mohawk ar yr afon oedd Kakanoaakakagaalla. Yr Ewropead cyntaf i fforio'r afon oedd y Ffrancwr Jacques Cartier, a'i galwodd yn Afon Canada.

Mae'n tarddu yn Llyn Ontario gerllaw Kingston yn nhalaith Ontario, ac yn llifo heibio dinasoedd Brockville, Cornwall, Montreal, Trois-Rivières a Dinas Quebec. Ei haber, Gwlff St Lawrence yw aber mwyaf y byd.