Afon Nîl Wen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dalgylch Afon Nîl Wen


Afon yn ngogledd-ddwyrain Affrica ac un o'r ddwy afon sy'n ymuno i ffurfio afon Nîl yw'r afon Nîl Wen.

Mae'r afon yma yn dechrau yn Llyn Victoria ar ffiniau Iwganda, Cenia a Tansania, er bod afonydd o faint sylweddol yn rhedeg i mewn i'r llyn yma ac felly'n rhan o'r un system. Mae'n llifo trwy Lyn Albert ac yna trwy Swdan - o ranbarth De Sudan a'i phrifddinas Juba, i'r gogledd - lle mae'n ymuno a'r Nîl Las ger Khartoum.

Afon Nil Wen sy'n cyfrannu'r rhan fwyaf o'r dwr i Afon Nîl am ran helaeth o'r flwyddyn, heblaw yn yr haf, pan fydd y tymor glawog yn ucheldir Ethiopia a'r Nîl Las yn cyfrannu'r rhan fwyaf o'r dwr.

Pont dros Afon Nîl Wen yn Juba, Sudan.
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill