Afon Chao Phraya
Oddi ar Wicipedia
Afon fawr yng nghanolbarth Gwlad Thai yw Afon Chao Phraya (Thai: แม่น้ำเจ้าพระยา), sy'n aberu yng Ngwlff Gwlad Thai. Saif Bangkok, prifddinas y wlad, ar ei glannau. Ei hyd yw 372 km (231 milltir).
Teitl ffiwdal am gadfridog neu arglwydd yw chao phraya; ond cyfieithiad arferol yr enw yw "Afon y Brenin".
Oherwydd ei phwysigrwydd fel llwybr masnach mae gan yr afon le canolog yn hanes datblygiad economaidd Gwlad Thai a'i hanes yn gyffredinol.
[golygu] Trefi a dinasoedd
Y prif drefi a dinasoedd ar lannau'r Chao Phraya, o'r gogledd i'r de, yw: