Addysg gartref

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Addysg plant yn y cartref yw addysg gartref, gan amlaf gan rieni ond weithiau gan diwtoriaid, yn hytrach na ysgol y wladwriaeth neu ysgol breifat. Er yr oedd addysgu o fewn y teulu neu'r gymuned yn ddull traddodiadol cyn i gyflwyniad ddeddfau sy'n gwneud mynychu ysgol yn orfodol, mae addysg gartref yn yr ystyr fodern yn ffordd amgen o addysgu mewn gwledydd datblygedig sydd yn ddewis arall i sefydliadau addysg a reolir gan lywodraethau neu'r sector preifat.

Gall rhieni benderfynu i roi addysg gartref i'w plant am amryw o resymau. Ymysg y cymhellion mwyaf cyffredin yw crefydd, trefniadau byw (gan amlaf byw yng nghefn gwlad neu mewn cartref dros dro), cost, argraff wael o lwyddiant ac amgylchedd addysg gyhoeddus, gwrthwynebiad i'r hyn a addysgir mewn ysgolion lleol, a chred taw'r cartref yw'r lle gorau i blant ddatblygu'n foesol ac yn academaidd.

Nuvola apps bookcase.svg Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill