(66391) 1999 KW4

Oddi ar Wicipedia
(66391) 1999 KW4
Animeiddiad o system deuaidd 1999 KW4
Enghraifft o'r canlynolasteroid, potentially hazardous asteroid, near-Earth object Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod20 Mai 1999 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan(66390) 1999 KL3 Edit this on Wikidata
Olynwyd gan(66392) 1999 KF10 Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.688, 0.68839309197708 ±1e-09 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Asteroid ddeuaidd sydd tua 1.3 cilometr mewn diamedr yw (66391) 1999 KW4, dynodiad dros dro 1999 KW4.[1] Mae wedi'i dynodi fel gwrthrych agos i'r Ddaear ac asteroid o'r grwp Aten a allai fod yn beryglus. Cafodd ei ddarganfod ar 20 Mai 1999 gan Lincoln Near-Earth Asteroid Research (LINEAR) yn Safle Prawf Arbrofol Labordy Lincoln yn Socorro, New Mexico, yr Unol Daleithiau.[2] Mae hefyd yn croesi cylchdro Mercher a hon yw'r system ddeuaidd hysbys agosaf at yr Haul gyda pherihelion o 0.2 Uned Astronomegol yn unig (5.4 pellter y lleuad).

Cylchdro[golygu | golygu cod]

Mae'r asteroid yn cylchdroi'r Haul ar bellter o 0.2–1.1 PA unwaith bob 6.18 mis (188 diwrnod). Mae gan ei gylchdro ecsentrigrwydd o 0.69 a thueddiad o 39° o ran yr ecliptig.[3] Cymerwyd rhagfynegiad cyntaf gan 2MASS yn Arsyllfa Whipple Fred Lawrence ym 1998, gan ymestyn arch arsylwi'r gwrthrych o flwyddyn cyn ei arsylwad darganfod swyddogol yn Socorro.[2]

Fel asteroid a allai fod yn beryglus, mae ganddo isafswm pellter cylchdro o 0.0138 Uned Astronomegol (2,060,000 cilometr) o'r Ddaear, sy'n cyfateb i 5.4 pellter y lleuad.[3] Ar 25 Mai 2036, bydd yn pasio 0.0155 Uned Astronomegol (2,320,000 cilometr) o'r Ddaear.[4]

Nodweddion ffisegol[golygu | golygu cod]

Yn nosbarthiad SMASS, nodweddir yr asteroid fel math S:-, sef y math ehangach o asteroidau caregog math S-.[3]

Mae gan 1999 KW4 leuad planed-fechan sy'n ei chylchdroi. Mae'r lleuad, a ddynodwyd yn S/2001 (66391) 1 tua 360 metr mewn diamedr, ac yn cylchdroi bob 16 awr ar bellter cymedrig o 2.6 cilometr. Awgrymwyd presenoldeb cydymaith gan arsylwadau ffotometrig a wnaed gan Pravec a Šarounová ac chadarnhawyd hynny gan arsylwadau Arecibo, trwy ddefnyddio radar, a'u cyhoeddi ar 23 Mai 2001.[5][1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Johnston, Robert (20 Medi 2014). "(66391) 1999 KW4". Johnston's Archive. Adalwyd 30 Mawrth 2017.
  2. 2.0 2.1 "66391 (1999 KW4)". Minor Planet Center. Adalwyd 30 Mawrth 2017.
  3. 3.0 3.1 3.2 "JPL Small-Body Database Browser: 66391 (1999 KW4)" (2017-05-31 last obs.). Jet Propulsion Laboratory. Adalwyd 1 Mehefin 2017.
  4. "JPL Close-Approach Data: 66391 (1999 KW4)" (2013-05-09 last obs (arc=14.9 yr)). Adalwyd 6 Ebrill 2016.
  5. Pravec, P.; Scheirich, P.; Kusnirák, P.; Sarounová, L.; Mottola, S.; Hahn, G.; et al. (Mawrth 2006). "Photometric survey of binary near-Earth asteroids". Icarus. 181 (1): 63–93. Bibcode:2006Icar..181...63P. doi:10.1016/j.icarus.2005.10.014. Adalwyd 1 Mehefin 2017.