Sgwrs Defnyddiwr:Dafydd Chilton

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
"Dydw i ddim wedi dysgu eto sut i gysylltu efo chi'n well na hyn"

Mae'n gweithio, ond mae'n dibynnu ar fod y defnyddiwr yn edrych ar y "newidiadau diweddar" er mwyn sylweddoli eich neges. Dwi wedi darganfod yn ddiweddar sut i adael neges yn fwy amlwg. Cliciwch ar enw'r defnyddiwr (i fynd i "Tudalen Defnyddiwr"), ac wedyn cliciwch ar "sgwrs" (i fynd i "Tudalen Sgwrs Defnyddiwr"). Os rydych chi'n teipio'ich neges yn y Tudalen Sgwrs Defnyddiwr, mae'r derbynnydd yn gweld y nod "mae gennych chi negeseuon newydd", fel dwi'n tybio eich bod chi newydd weld. Y wiwer wen 19:33, 3 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Shwmae Dafydd a chroeso! Y ffordd arall o adael neges i bawb allu ei darllen yw drwy clicio ar y ddolen ar gyfer Y Caffi a gadael neges yno. Mae hyn yn addas os ydych eisiau cyngor neu gymorth wrth un o'r Wicipedwyr eraill. Gobeithio fod hyn o fudd! Rhodri77 20:59, 3 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
O.N. Er mwyn llofnodi'ch neges fel dw i newydd wneud, teipiwch bedair ~~~~ a bydd eich enw defnyddiwr, yr amser a'r dyddiad yn ymddangos. Mae hynny'n galluogi derbynwyr y neges i wybod pwy a phryd y danfonwyd y neges! Rhodri77 20:59, 3 Rhagfyr 2009 (UTC) (unwaith eto!)[ateb]

Diolch yn fawr i chi gyd. Mae gen i waith dysgu! Dafydd Chilton 10:53, 4 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Mae gennym ni i gyd! Diolch am dy gyfraniadau; fel y dywedais o'r blaen, mae Wici'n adnodd tra phwysig i blant y dyddiau hyn; cadwn hi'n lân a phur ar gyfer y dyfodol, megis trysor gwerthfawr. Llywelyn2000 07:50, 6 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]