Dibynfentro

Oddi ar Wicipedia

Strategaeth neu dechneg mewn trafodaethau neu wrthdaro yw dibynfentro[1] sydd yn ceisio gwthio'r sefyllfa fel ei bod ar fin perygl ac yna tynnu'n ôl heb achosi distryw llwyr. Defnyddir y fath ddulliau yng ngwleidyddiaeth, cysylltiadau rhyngwladol, cysylltiadau llafur, a strategaeth filwrol.

Yr achos enwocaf o ddibynfentro mewn diplomyddiaeth oedd Argyfwng Taflegrau Ciwba ym 1962, pryd ymddangosai'r byd fel ei fod ar fin rhyfel niwclear.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, "brinkmanship".
  2. G. R. Berridge ac Alan James, A Dictionary of Diplomacy (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2003), t. 25.
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.