Thomas d'Angleterre
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Thomas o Brydain)
| Thomas d'Angleterre | |
|---|---|
| Ganwyd | 12 g Dugiaeth Normandi |
| Bu farw | 12 g |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd |
| Blodeuodd | 12 g |
Bardd a chlerigwr Seisnig yn yr iaith Normaneg oedd Thomas d'Angleterre neu Thomas de Bretagne a flodeuai yn y 1170au. Mae'n adnabyddus am ei gerdd Tristan, fersiwn llysol o chwedl Trystan ac Esyllt yng Nghylch Arthur.
Ni wyddys llawer am fywyd Thomas, er mae'n sicr iddo fyw yn Lloegr ac yn un o wŷr llys y Brenin Harri II. Cyfansoddodd Tristan rhywbryd ar ôl 1155, y flwyddyn pryd gyhoeddwyd Roman de Brut gan Wace sy'n ffynhonnell am sawl elfen draethiadol yng ngwaith Thomas. Mae ambell ysgolhaig wedi bwrw amheuaeth ar ddilysrwydd hanesyddol Thomas.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Constance B. Bouchard, "The Possible Nonexistence of Thomas, Author of ‘Tristan and Isolde’", Modern Philology, cyfrol 79, rhif 1, 1981, tt. 66–72.