Seicotherapi

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Therapi seicolegol)

Y defnydd o ddulliau seicolegol er mwyn cynorthwyo person i newid a goresgyn problemau. Mae'n ymgais i wella iechyd meddwl y person yn ogystal a'i les cyffredinol yn enwedig pan fo gan y person ymddygiad, meddyliau, emosiynau neu gredoau sy'n peri pryder a gwella sgiliau cymdeithasol a pherthynas y person a phobl eraill.

Mae rhai seicotherapiau wedi'u creu er mwyn gwella anhwylder meddwl.

Ceir dros fil o wahanol fathau o dechegau seicotherapi gwahanol, ond mae'r rhan fwyaf yn ymwneud â sesiynau un-i-un rhwng y cleient a'r therapydd. Mae eraill yn sesiynau grŵp neu deulu. Mae rhai secotherapyddion wedi'u hyfforddi fel seiciatryddion neu seicolegwyr sy'n delio gyda phroblemau'r meddwl.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]