Sgwrs:Yr ocwlt

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Yr Ocwlt)

Diddorol iawn yw dy Dudalen Defnyddiwr; eithriadol. Mae dy nodiadau ar ocwlt ac alcemi hefyd yn ddiddorol. Wyt ti'n gyfarwydd a'r erthyglau sydd gennym ar Wicca a'r Dynion Mwyn? Deallaf mai Sir Fôn ydy Mecca'r grefydd Geltaidd? Sgen ti gyfraniad? Neu fedri dwtio'r erthyglau hyn? Llywelyn2000 13:25, 19 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Yn gyntaf, bu Ynys Môn yn lle pwysig i Dderwyddon yn yr henfyd/oes y Rhufeiniaid, a tueddir i'w ystyried yn ganolfan i Dderwyddon yn Ewrop, yn enwedig ar ôl cwymp Gâl (Chartres oedd canolfan Derwyddon Gâl yn oes Iŵl Cesar). Ond ni ellir disgrifio Môn fel "Mecca'r grefydd Celtaidd" am nad oes gennym ddigon o dystiolaeth ynglŷn â chrefydd y Celtiaid i gadarnhau y bu gan y Celtiaid grefydd unffurf.

Yn ail, mae Wicca yn grefydd modern, ac nid oedd y Dynion Mwyn yn bodoli cyn yr 20fed ganrif. Dynion hysbys oedd yr hyn a fu gennym ni'n hanesyddol yng Nghymru, ac roedd y Dynion Hysbys yn unigolion yn yr un modd yr oedd llawer o ddewiniaid ar draws Ewrop yn y cyfnod yn unigolion (Alcemwyr, John Dee, Paracelsus etc) Sanddef 23:36, 25 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Hollol. Gyda llaw, mae gennym eginyn o erthygl am y Dyn Hysbys. Anatiomaros 23:38, 25 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]