Sgwrs:Ieithoedd Slafonaidd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Ieithoedd Slafaidd)

Slafaidd neu Slafonaidd[golygu cod]

Pam wyt ti credu bod Slafaidd yn gywirach na Slafonaidd? Daffy 23:03, 5 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Mae'r term "Slavonic" yn cyfeirio at enw un iaith yn arbennig: Hen Slafoneg, ac hefyd i leoliad: Slafonia, yng Nghroatia Mae'r "Slavic Languages" (Dydan nhw ddim yn derbyn "Slavonic" yn Saesneg fel enw swyddogol ieithyddiaeth chwaith) yn "Ieithoedd Slafaidd" yn ol G-y-rA Yn yr un modd, mae "Slavs" (nid "Slavonic peoples") yn Slafiaid Sanddef 23:18, 5 Chwefror 2007 (UTC)Sanddef[ateb]

Slavonic languages yw'r term arferol ym Mhrydain. Slavic languages yw'r term arferol yn yr Unol Daleithiau. Dwi'n awgrymu y dylen ni ddilyn defnydd Prydeinig yn hytrach na defnydd yr UDA. Mae Slavonic / Slafoneg yn cyfeirio at y grŵp cyfan. Hen Slafoneg Eglwysig yw un o'r ieithoedd yn y grŵp. Does dim iaith Hen Slafoneg (o leiaf yn ôl defnydd y Gorllewin). Dwi'n cytuno ynghlyn â Slafiaid fel grŵp ethnig hanesyddol a chyn-hanesyddol. Daffy 23:38, 5 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Wel, fel rhywun sydd o dras Slafaidd fy hun, rhaid imi ddweud nad ydw i'n arfer a'r term Slavonic yma ym Mhrydain nac yn llyfrau Prydeinig ar ieithyddiaeth chwaith, nac yn nherminoleg unrhyw iaith dw'i'n nabod chwaith. Slavic ydy'r term rhyngwladol yn Saesneg. Mae Slavonic yn swnio imi fel term hen ffash sydd ddim yn cael ei ddefnyddio mwyach. Mae Slafaidd yn derm dilys sydd ddim yn drysu pobl nac yn cael ei ddrysu efo Slovenia, Slovakia, Slavonia na Hen slafoneg, a Slofeneg Sanddef 23:50, 5 Chwefror 2007 (UTC)Sanddef[ateb]

Dwi wedi ychwanegu rhestr o'r prif gyflwyniadau Saesneg i'r pwnc ar ddiwedd yr erthygl. Maen nhw i gyd yn defnyddio Slavonic, nid Slavic. Slavonic yw term safonol ymysg ieithyddion ym Mhrydain (yn dilyn y Ffrangeg - slavon - gan i ti ofyn). Mae e *yn* cael ei ddefnyddio. Mae adrannau prifysgol ym Mhrydain sy'n cyfeirio at yr ieithoedd yn defnyddio Slavonic (yn unig): gweler SSEES, Caergrawnt, Sheffield, Nottingham, Glasgow ayyb. Slavonic Studies yw enw'r pwnc ym Mhrydain. Slavic yw'r term Americanaidd. Pa lyfrau o Brydain ar ieithyddiaeth Slafonaidd sy gen ti mewn golwg? Daffy 01:24, 6 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]


Ymddengys fod ti'n iawn yn yr hyn ti'n dweud. O edrych ar y we mae'r ddau derm yn cael eu defnyddio yn adrannau Saesneg rhyngwladol, dibynnol i raddau ar y defnydd o Saesneg America neu Saesneg Lloegr, er nad yw y gwahaniaeth "America-Lloegr" yn un hollol bendant (h.y., mae'r ddau derm yn cael eu defnyddio i raddau gyda'u gilydd ym Mhrydain a'r UDA). Serch hynny mae 'na anghysondebau yn y Gymraeg o ran defnyddio'r term "Slavonic" (gweler y sylw nesaf isod). Byddai'n rhaid efelychu'r wikipedia Saesneg o ran creu tudalen "gwahaniaethu" ar y mater. Dyfyniad:

Slav, Slavic or Slavonic can refer to

Slavic languages. (sy'n arwain at: The Slavic languages (also called Slavonic languages))


Slavic peoples their speakers,

Slavic mythology their mythology,

the Church Slavonic language, and its earliest form, the Old Church Slavonic language

Slav, a former Israeli settlement in the Gaza Strip.

The chess opening named the Slav Defense.


Sanddef 10:09, 6 Chwefror 2007 (UTC)Sanddef[ateb]


Geiriadur yr Academi:

1.Slav (a) Slafaidd

(n) Slafiad (Slafiaid)

2.Slavic (ethn) Slafig

(ling) Slafeg

3.Slavicist Slafegwr

4.Slavonia Slafonia

5.Slavonian (a) Slafonaidd

(ethn) Slafoniad (Slafoniaid)

(ling) Slafoneg

6.Slavonic (a) Slafonig

(ling) Slafoneg

Church- Hen Slafoneg

7.Slavophile (n) Slafgarwr

(attrib) Slafgar, Slafgarol

8.Slavophobe Slafgasäwr

9.Slavophobic Slafgasaol

(Sylwer: Slavonian a Slavonic ill dau yn Slafoneg, er mai dau beth gwahanol ydynt. Hefyd: dau beth gwahanol yw Slafonig a Slafonaidd. Sylwer hefyd: Nid yw "Slafaidd" yn cyfeirio at yr iaith o gwbl, Wps!) Sanddef 10:55, 6 Chwefror 2007 (UTC)Sanddef[ateb]


Dw'i'n cynnig felly (fel tudalen gwahaniaethu:)

Ieithoedd Slafig/Slafonig

Tafodiaith Slafoneg (h.y. Tafodiaith Slofania yng Nghroatia)

Hen Slafoneg (Church Slavonic)

Slafiad (ll. Slafiaid)

Amddiffyniad Slafaidd (Slav Defence in Chess)

Slafonia (ardal yng Nghroatia)

Mytholeg Slafig

Sanddef 13:59, 6 Chwefror 2007 (UTC)Sanddef[ateb]


Yn y cyfamser dwi wedi cywiro'r termau anghywir "Slafaidd" a "Balto-Slafaidd". Cwestiwn arall ydy "-eg" neu "-ig". Fe fyddaf yn gofyn Proffesorau'r Gymraeg heddiw neu ddoe am hyn, oherwydd os yw "Ieithoedd Slaf[on]eg" yn gywirach na "Ieithoedd Slaf[on]ig" byddai'n rhaid neud lot o newidiadau ieithyddol ar Wicipedia (e.e. "Indo-Ewropeaidd/-Ewropeeg", "Ieithoedd Geltaidd/Gelteg" etc) Sanddef 14:50, 6 Chwefror 2007 (UTC)Sanddef[ateb]

Ieithoedd: -aidd/-eg[golygu cod]

Dwi wedi bod yn dilyn y drafodaeth o bryd i'w gilydd. Dydwi ddim yn arbennigwr ar ieithoedd dwyrain Ewrop ac mae 'na ddiffyg deunydd yn y Gymraeg hefyd, ond medra'i ddweud yn bendant mai 'Slafiad/Slafiaid' yw'r bobl. *'Slafeg' yw'r iaith wrth gwrs. Ond 'Slafaidd' (neu 'Slafonaidd') yw'r term ar gyfer yr ieithoedd sy'n deillio o Slafeg neu'n perthyn iddi. Yn yr un modd mae 'na'r iaith *Indo-Ewropeg (sydd wedi diflannu ond gellir ail-greu ei geirfa ac ati) ond Ieithoedd Indo-Ewropeaidd; h.y. 'Indo-Ewropeiaid' oedd/sydd yn siarad yr ieithoedd hynny, sy'n deillio o'r 'fam-iaith' tybiedig 'Indo-Ewropeg'. Felly does dim rhaid newid unrhyw beth. Mae'r terfyniad '-ig' yn cael ei ddefnyddio weithiau e.e. 'pobl Slafonig' ond dydw i ddim yn mynd i ymuno yn y ddadl honno. Dwi'n meddwl ei bod yn fater o arfer a dewis; serch hynny buaswn yn tueddu i gytuno â Daffy fod dilyn y defnydd 'Prydeinig'/Ewropeaidd sy'n arferol yn Gymraeg. Anatiomaros 15:48, 6 Chwefror 2007 (UTC) (ON Dwi'n falch bod chi'n trafod cadoediad yn hytrach na pharatoi am ryfel! Hwyl.).[ateb]

Cywir, ond nid yn yr achos "Slafaidd". Er bod "Ieithoedd Celtaidd/Indo-Ewropeaidd" yn gywir, mae Geiriadur yr Academi yn dangos yn bendant mai "Slafig" yw'r cyfieithiad cywir ar gyfer "Slavic" fel ansoddair (gweler y rhestr uchod), felly, gallwn ni siarad am y "Slav Defence" fel yr "amddiffyniad Slafaidd" ond nid felly am "Slavic languages" (Ieithoedd Slafig). Mi wnaf i edrych heno ar beth mae Peter Wyn Thomas yn dweud yn "Gramadeg y Gymraeg" (sydd yn cael ei ddefnyddio fel canllaw'r iaith safonol gan y prifysgolion) , ond byddai'n syndod imi petai o'n dweud unrhywbeth sydd yn groes i Geiriadur yr Academi, geiriadur sydd â'r gair olaf o ran cyfieithu termau Saesneg. Sanddef 16:02, 6 Chwefror 2007 (UTC)Sanddef[ateb]


Slafeg[golygu cod]

Yn dilyn esiampl y llyfr Eu Hiaith A Gadwant (Gwasg Prifysgol Cymru), dw'i'n newid i "Ieithoedd Slafeg" Sanddef 08:31, 9 Chwefror 2007 (UTC)Sanddef[ateb]

Ar ôl mentro safoni'r categoreiddio o'r ieithoedd Slafonaidd/Slafaidd/Slafig/Slafeg dyma dod ar draws y sgwrs hwn a sylweddoli bod yna anghytuno ar y mater. wps! Wedi rhoi heibio newid rhagor o bethau am nawr. Lloffiwr 19:33, 15 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Paid â phoeni gormod amdano. Efallai nad oes modd datrys y cwestiwn i fodloni pawb ac mae Slafonaidd neu Sflafonig yn well na "Slafeg", sy'n anghywir fel term am y grŵp o ieithoedd (hen ddadl!). Anatiomaros 19:44, 15 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]