Sgwrs:Alicante

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Yr enw[golygu cod]

Pam ddefnyddio'r enw Catalaneg yma? Dydi Alicante ddim yn Nghatalonia. Dwi'n awgrymu symud hyn i Alicante, lle y dylai fod. Anatiomaros 17:13, 29 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Yn ôl y wicipedia saesneg / spaeneg, mae'r un iaith yn estyn i mewn i Valencia hefyd, er bod hi'n ei nabod fel "valenciano" yna. (Dw i ddim wedi chwilio ffynonellau eraill am hynny.) Alan012 18:13, 29 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Digon teg, roeddwn i'n meddwl am Gatalonia a'r Gataloneg. Ond ydi Valenciano yn iaith swyddogol yn Valencia? Os ydy hi, popeth yn iawn mae'n debyg, er bod lle i ddadlau dros ddefnyddio'r enw mwyaf cyfarwydd i siaradwyr Cymraeg - prin bod llawer o Gymry yn dweud "Alacant" am "Alicante". Diolch am fynd i'r trafferth o chwilio hyn i fyny. Anatiomaros 18:37, 29 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]