Proselytiaeth
Gwedd
Y weithred o geisio trosi pobl i farn wahanol yn ogystal â chrefydd arall yw proselytio. Daeth y gair proselytio yn wreiddiol o ragddodiad y Roeg 'πρός' (tuag at) a'r ferf 'ηλυτος' (mynd/aeth). Yn hanesyddol mewn Septuagint Groeg Gyffredin a'r Testament Newydd, ystyr y gair proselyt oedd cenedl-ddyn a oedd yn ystyried trosi i Iddewiaeth, a chyfeiriodd y gair yn wreiddiol at Gristnogaeth Gynnar, mae'n cyfeirio hefyd at geisiadau crefyddau eraill i drosi pobl i'w credoau nhw neu gais i gyflyru neu drosi pobl i safbwynt arall, naill ai'n grefyddol neu fel arall. Hyd heddiw, mae'r gair yn negyddol ac fel arfer yn cael ei ddefnyddio er mwyn disgrifio tröedigaeth grefyddol rymus.