Y Dywysoges Fiona

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Princess Fiona)

Mae Tywysoges Fiona yn un o'r prif gymeriadau ffuglennol yn y gyfres ffilmiau animeiddiedig Dreamworks, Shrek.  Ymddangosodd yn gyntaf yn Shrek (2001), wedi'i lleisio gan yr actores Americanaidd Cameron Diaz.

Ymddengys Fiona yn y ffilm cyntaf yn dywysoges wedi ei melltithio a'i thrawsnewid yn gawr-bwgan pob machlud haul.  Mae wedi'i chloi mewn castell sydd wedi amddiffyn gan ddraig am nifer o flynyddoedd cyn iddi cael i'w hachub gan gawr-bwgan di-nod o'r enw Shrek ac mae'n meddwl mai ef yw'r marchog sydd am ei hachub a torri'r felltith.  Mae Fiona yn cîn iawn i dorri'r felltith drwy gusan cariad pur er mwyn iddi gael aros yn ddynes. Mae'n disgwyl Lord Farquaad ond mae'n disgyn mewn cariad â Shrek.