Neidio i'r cynnwys

Magda Szabó

Oddi ar Wicipedia
Magda Szabó
Ganwyd5 Hydref 1917 Edit this on Wikidata
Debrecen Edit this on Wikidata
Bu farw19 Tachwedd 2007 Edit this on Wikidata
Budapest, Kerepes Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Hwngari Hwngari
Alma mater
  • Prifysgol Debrecen Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd, sgriptiwr, bardd, awdur plant, rhyddieithwr, llenor, awdur storiau byrion Edit this on Wikidata
Arddullnofel, traethawd, stori fer Edit this on Wikidata
PriodTibor Szobotka Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Kossuth, Gwobr Merched Dramor, Cadlywydd Urdd Seren er Teilyngdod, Hwngari, dinesydd anrhydeddus Budapest, Dinasyddion Debrecen Edit this on Wikidata

Awdures o Hwngari oedd Magda Szabó (Hwngareg: Szabó Magda; 5 Hydref 1917 - 19 Tachwedd 2007) sy'n cael ei chofio'n bennaf fel bardd, dramodydd, awdur plant, cyfieithydd a sgriptiwr. Hi yw'r awdur Hwngaraidd sydd wedi'i gyfieithu fwyaf, gyda chyhoeddiadau mewn 42 o wledydd a thros 30 o ieithoedd (yn 2019).[1][2][3]

Fe'i ganed yn Debrecen, Awstria-Hwngari ar 5 Hydref 1917, bu farw yn Budapest ac fe'i chladdwyd ym Mynwent Farkasréti.[4][5][6][7][8][9][10]

Coleg a gwaith

[golygu | golygu cod]

Yn 1940, graddiodd o Brifysgol Debrecen fel athrawes Ladin a Hwngareg. Dechreuodd addysgu yn yr un flwyddyn yn Ysgol Breswyl Brotestannaidd y Merched yn Debrecen a Hódmezővásárhely. Rhwng 1945 a 1949, bu'n gweithio yng Ngweinyddiaeth Crefydd ac Addysg y Llywodraeth.[3] [11]

Yn 1947 priododd yr awdur Tibor Szobotka (1913–1982).[12]

Yr awdures

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Szabó ei gyrfa fel bardd pan gyhoeddodd ei llyfr cyntaf o farddoniaeth, Bárány ("Yr Oen"), yn 1947, ac yna Vissza az emberig ("Yn Ôl at Ddynoliaeth") ym 1949.[13]

Yn 1949 enillodd Wobr Baumgarten, a dynnwyd yn ôl oddi wrthi, cyn gynted ag y sylweddolwyd fod Szabó yn elyn i'r Blaid Gomiwnyddol. Cafodd ei diswyddo o'r Weinyddiaeth Crefydd ac Addysg yn yr un flwyddyn.

Fe wnaeth y cyfnod Stalinaidd (rhwng 1949 a 1956) reoli a sensro pob llenyddiaeth, gan gynnwys gwaith Szabó, nad oedd yn cydymffurfio â gofynion yr Awdurdodau.[14] Gan i'w gŵr hefyd gael ei gystwyo gan y Comiwnyddion, bu'n rhaid iddi addysgu mewn ysgol i ferched Calfinaidd tan 1959.[1][14]

Ysgrifennodd ei nofel gyntaf, Freskó (1958) yn ystod y blynyddoedd hyn.[13]

Mae'r nofel yn adrodd hanes teulu piwritanaidd yn dod at ei gilydd am angladd, ac yn datblygu cwestiynau am ragrith tra'n myfyrio ar hanes Hwngari. Yn yr un flwyddyn, cyhoeddodd lyfr arall o farddoniaeth o'r enw Bárány Boldizsár ("Lawrence yr Oen") a nofel wedi'i hysgrifennu ar gyfer cynulleidfa fenywaidd iau o'r enw Mondják meg Zsófikának ("Dweud wrth Sophie Fach"). Cyhoeddwyd Az őz ("Yr Elain") yn 1959, nofel sy'n canolbwyntio ar actores a'i phlentyndod anodd, tlawd.[1][2]

Yn 1961 a 1962, cyhoeddodd Szabó dwy nofel arall i ferched ifanc, Álarcosbál ("Y Ddawns") a Születésnap ("Pen-blwydd").[1][13] Stori am feddyg benywaidd yw Pilátus ("Baled Iza"), a'i pherthynas gyda'i mam, a gyhoeddwyd yn 1963.[15] Un o'r nofelau mwyaf poblogaidd a sgwennodd yw Tündér Lala ("Lara'r Dylwythen Deg"), a sgwennodd mewn Hwngareg.[2][13] Yn 1969, cyhoeddodd Katalin utca ("Ffordd Katalin"), disgrifiad cignoeth o fywyd wedi'r Ail Ryfel Byd.[1] Mae'r nofel a ddarllenwyd fwyaf, Abigél (1970) yn stori antur am ferch ifanc a breswylia yn nwyrain Hwngari yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[2]

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Academi Ewropeaidd Celf a Gwyddoniaeth am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Kossuth (1978), Gwobr Merched Dramor (2003), Cadlywydd Urdd Seren er Teilyngdod, Hwngari (1997), dinesydd anrhydeddus Budapest (2006), Dinasyddion Debrecen (1977) .

Gweithiau

[golygu | golygu cod]
Cofeb Magda Szabó yn Budapest Rhanbarth II, Heol Júlia Rhif 3
  • Das Fresko. Roman, Insel, Wiesbaden 1960
  • Die andere Esther. Roman, Insel, Frankfurt am Main 1961
    • neu übersetzt als: Eszter und Angela, Volk und Welt, Berlin 1979
  • Erika. Roman, Corvina, Budapest 1961
  • Schlangenbiß. Schauspiel in drei Akten, Drei Masken, München um 1962
  • Das Schlachtfest. Roman, Insel, Frankfurt am Main 1963
  • Maskenball. Roman für junge Mädchen, Corvina, Budapest 1963
  • … und wusch ihre Hände in Unschuld. Roman, Insel, Frankfurt am Main 1964
    • neu übersetzt als: Pilatus, Insel, Leipzig 1976, und Die Elemente, Secession, Zürich, 2010
  • Inselblau. Ein Roman für alle Kinder und sehr gescheite Erwachsene, Corvina, Budapest 1965
  • Die Danaide. Roman, Insel, Frankfurt am Main 1965
  • Geburtstag, Altberliner Verlag, Berlin 1966
  • 1. Moses 22. Roman, Insel, Frankfurt am Main 1967
  • Lauf der Schlafenden. Erzählungen, Insel, Frankfurt am Main 1969
  • Katharinenstraße. Roman, Insel, Frankfurt am Main 1971
  • Lala, der Elfenprinz, Kinderbuchverlag, Berlin 1974
  • Abigail. Erzählung, Corvina, Budapest 1978
    • neu übersetzt als: Abigél, Verlag Neues Leben, Berlin 1986
  • Eine altmodische Geschichte. Roman, Volk und Welt, Berlin 1987
  • Die Tür. Roman, Volk und Welt, Berlin 1990


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "Magda Szabó". Publishing Hungary. 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-18.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "Magda Szabó: Acclaimed author of 'The Door'". The Independent.
  3. 3.0 3.1 "Magda Szabó". Frankfurt '99 Non-Profit Organization.
  4. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12032713t. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://libris.kb.se/katalogisering/31fhk2rm2rpzkhv. LIBRIS. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018. dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2012.
  5. Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_366. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
  6. Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Awst 2015. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12032713t. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  7. Dyddiad geni: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Awst 2015. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12032713t. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Magda Szabó". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Magda Szabo". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Magda Szabó". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Magda Szabó". "Magda Szabo". "Magda Szabo". https://cs.isabart.org/person/132092. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 132092. "Magda Szabo". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  8. Dyddiad marw: http://www.reuters.com/article/peopleNews/idUSL2015236920071120. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Awst 2015. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12032713t. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Magda Szabó". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Magda Szabo". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Magda Szabó". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Magda Szabó". "Magda Szabo". "Magda Szabo". https://cs.isabart.org/person/132092. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 132092. "Magda Szabo". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  9. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 12 Rhagfyr 2014
  10. Crefydd: https://www.digitalniknihovna.cz/mzk/view/uuid:2002f9b0-d327-11e6-8f29-5ef3fc9ae867?page=uuid:5f0b4a50-d362-11e6-b3b6-005056825209. rhifyn: 6. dyddiad cyhoeddi: Mehefin 1986. tudalen: 82.
  11. Galwedigaeth: https://cs.isabart.org/person/132092. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 132092.
  12. Gömöri, George (2007-11-28). "Obituary: Magda Szabó". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2019-04-18.
  13. 13.0 13.1 13.2 13.3 "Szabó Magda". Kortárs Irodalmi Adattár. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-08-26. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  14. 14.0 14.1 Czigány, Lóránt (1986). "A History of Hungarian Literature". Library of Hungarian Studies.
  15. Groff, Lauren (11 Tachwedd 2016). "In Magda Szabo's Novel, A Widow is Uprooted From What She Loves". The New York Times. Cyrchwyd 18 Mai 2019.