Ffynhonnau'r Gogarth

Oddi ar Wicipedia

Mae ffynhonnau'r Gogarth i'w canfod ar Ben y Gogarth, (sef y Gogarth Fawr), Llandudno. Mae rhai'n hanesyddol ac eraill yn dal i'w gweld heddiw.

Map yn dangos y ffynhonnau ar Ben y Gogarth, Llandudno

Y Ffynhonnau[golygu | golygu cod]

Ffynnon Gogarth[golygu | golygu cod]

53°19′48″N 3°51′32″W / 53.3299°N 3.8588°W / 53.3299; -3.8588 (Ffynnon Gogarth)

Bu'r ffynnon yma'n bwysig iawn yn hanes Llandudno dros y canrifoedd. Y cyfeirnod map yw 764832. Y ffordd orau i ymweld â hi yw parcio'r car yn y maes parcio ar y copa, neu deithio ar fws. Wrth gwrs, gellir cerdded o'r dref - siwrnai o tua tri-chwarter awr! O orsaf y tram dylid dilyn wal y mynydd at ei therfyn, ac yna i lawr y llethr, lle gwelir arwydd 'Ffynnon Gogarth (gwelwch y llun). Yn rhyfedd iawn mae'n ymddangos fel bod dwy ffynnon yma!

Ysgrifennodd John Roberts, Bryn Celyn, yn y Llandudno Advertiser[1] yn 1909 am y ffynnon a chyfieithiad o'i erthygl ef gafwyd gan y diweddar Glyn Davies, Glenelg, y Gogarth Fawr, yn 'Y Pentan ym 1988'[2]
“Hon heb amheuaeth yw'r ffynnon bwysicaf ar y Gogarth, ac fe'i lleolir ar y llechwedd gorllewinol. Petaech yn tynnu llinell ddychmygol o Fferm y Gogarth i'r Gwesty ar y copa, fe ganfyddech bod safle Ffynnon Gogarth tua hanner y ffordd rhwng y ddau le. Arferai'r trigolion ystyried bod dŵr y ffynnon o ansawdd da iawn a byddai gan wragedd tŷ Llandudno feddwl y byd ohoni. Fe'i profwyd gan arbenigwyr ac yr oeddynt hwythau o'r farn fod y dŵr o ansawdd rhagorol, — sy'n dangos nad oedd dull yr hen bobol o brofi ymhell iawn o'i le. Mae'n ffaith y rhed o'r ffynnon hon gyflenwad helaethach o ddŵr nag o un ffynnon arall am gryn filltiroedd.

Injan weindio copr

Rhaid dod i'r penderfyniad bod Ffynnon Gogarth yn hen iawn. Roedd Abaty'r Gogarth gerllaw iddi a gellir dweud gyda chryn sicrwydd y byddai'r ffynnon hon yn digoni'r Abaty â chyflenwad o ddŵr. Darganfyddwyd cylfat a gludai'r dyfroedd i'r Abaty; fe'i dinistriwyd, wrth gwrs, erbyn hyn gan gloddwyr. Y dybiaeth yw y byddai'r dŵr yn rhedeg heibio rhan o'r Abaty lle roedd y gegin ac yna ymlaen i'r môr; fe'i dyfeisiwyd am resymau iechyd a glendid, sy'n profi bod y mynachod yn y dyddiau cyntefig hynny yn ymarfer peirianwaith iechyd go hynod. Defnyddid dŵr y ffynnon hefyd yn yr hen fwynau copr yn rym i bwmpio dŵr allan o'r mwyn ar y Gogarth. I'r diben hwn fe adeiladwyd dyfain ar draws y mynydd o'r ffynnon i geg y siafft, math o 'siarleg' wedi'i gwneud o goed tal a osodwyd tua 50 o lathenni ar wahân; cysylltid y rhan uchaf ar ei hyd â haearn a choed, a byddai'r 'siarleg' yn gweithio'n ôl a blaen, — a dyna sut y gweithiai'r pympiau. Enw'r mwynwyr ar y peiriant hwn oedd 'Tom a Jerry'. Pa ran oedd 'Tom' a pha ran oedd 'Jerry', ni wyddys bellach! Fodd bynnag gellir yn hawdd olrhain olion gweladwy o'r peirianwaith cyntefig hwn ar y Gogarth o'r ffynnon i'r gwaith mwynau.

Mae'n werth nodi mai'r ffynnon hon a arferai gyflenwi Llandudno â dŵr am flynyddoedd lawer, a chredwyd yn 1909 bod ei dyfroedd yn gymysg â'r cyflenwad a geir o Ddulyn, rhywle ar gychwyn Ffordd Conwy. Mae'r cyfan yn profi fod Ffynnon Gogarth nid yn unig wedi gwasanaethu ein cyndeidiau, ond iddi hefyd fod yn fendith i Landudno fel yr oedd a hefyd fel y mae."

Yn rhan isaf y ffynnon, ac o dan y concrid, flynyddoedd yn ôl ‘roedd pwmp i bwmpio dŵr ar hyd pibellau i’r gwesty ar ben y Gogarth. Hefyd, roedd yna gwt ar y safle a defnyddid y dŵr, ynghyd â dŵr Llyn Dulyn hyd canol y tridegau ar gyfer cyflewnwi trigolion y dref.

Ffynnon Llygad[golygu | golygu cod]

53°19′51″N 3°51′39″E / 53.3307°N 3.8608°E / 53.3307; 3.8608 (Ffynnon Llygad)

Cyfeirnod OS: SH762832

Ffynnon Llygad: Dywedir bod hon yn llesol ar gyfer problemau gyda'r golwg. Cymerwch "y Ffordd Las" i gyrraedd hon

Cyfieithiad sydd yma o erthygl John Roberts yn y Llandudno Advertiser yn 1909 gan y diweddar Glyn Davies. “Ar ochr orllewinol y Gogarth wrth groesi'r 'Marine Drive' fe ddeuwn at Fferm y Gogarth. Ychydig bellter oddi yno deuwn at lwybr ar y dde yn arwain i fyny'r Gogarth. Hen enw'r trigolion arno oedd 'Y Ffordd Las' ac yn yr hen amser byddai trigolion yr ochr honno i'r Gogarth yn llwybreiddio eu ffordd i Eglwys Tudno Sant. Dyma'r ffordd y byddai angladdau'n mynd, a dim ond dynion wrth gwrs fyddai'n cludo'r elor. Wrth i chi ddringo'r llwybr hwn hyd hanner y ffordd a throi i'r dde; i fyny wedyn ar letraws, fe ddewch at Ffynnon Llygaid. Er nad yw'n orchwyl hawdd dod o hyd iddi, y mae nifer o gerrig gwastad gerllaw a chartref Mr Mason nepell o grib y Gogarth.

Adnabyddid y ffynnon hon ers blynyddoedd fel ffynnon feddyginiaethol, — am genedlaethau bu cyrchu ati oherwydd y gred bod ei dyfroedd yn lles i'r llygaid. Bu adeg pan gludid ei dyfroedd i rai o drefi Lloegr i feddyginiaethu llygaid ac fe'i profwyd yn fuddiol. Gwyddom i sicrwydd am sawl achos yn Llandudno heddiw y gellir tystio bod gwellhad i'r llygaid wedi digwydd wrth ddefnyddio dŵr y ffynnon hon. Y mae'r cerrig sgwar sy' o gwmpas y ffynnon yn profi iddi fod ar un adeg mewn cyflwr gwell o lawer a bod gwaith cerrig wedi'i adeiladu o'i chwmpas. Gelwid y llwybr y cyfeiriwyd ato eisoes yn 'Llwybr y Myneich', sef y llwybr a ddefnyddid ganddynt i gyrraedd Eglwys Tudno Sant, ac nid yw'n annhebygol bod mynachod Abaty'r Gogarth rhywdro wedi defnyddio'r ffynnon.”

Ffynnon y Gaseg[golygu | golygu cod]

53°20′18″N 3°52′29″E / 53.3382°N 3.8746°E / 53.3382; 3.8746 (Ffynnon y Gaseg)

Ffynnon y Gaseg:Defnyddid hon i ddi-sychedu ceffylau oedd yn teithio ar Gylch-dro'r Gogarth

Ffynnon oedd hon i ddisychedu ceffylau oedd yn tynnu'r coetsys yn yr hen amser, ar y reid o dros bum milltir o gylch y Gogarth. Fe'i lleolir ym mhen eithaf gogledd-orllewin y Gogarth Fawr; a darganfuwyd hi yn ystod y gwaith o adeiladu'r 'Marine Drive' yn ystod y 19g. Fe'i defnyddid yn bennaf fel ffynnon i ddisychedu ceffylau oedd yn tynnu'r coetsys ar y reid o dros bum milltir o gylch y Gogarth. Cyn belled ag y gwyddom 'does fawr neb yn gwybod rhyw lawer amdani. Gellir nodi fod yn y cyffiniau olion pentref hynafol, a'r tebygrwydd yw y defnyddid y ffynnon hon yn y cyfnod cyntefig hwnnw.

Yn gynharach ym 1863 nodwyd ei bod wedi cael ei defnyddio yn y cyfnod cyn y Rhufeiniaid i olchi llawer iawn o gopr.

Ffynnon Llech[golygu | golygu cod]

53°20′32″N 3°52′12″E / 53.342249°N 3.869883°E / 53.342249; 3.869883 (Ffynnon Llech)

Cyfeirnod map:SH755844

Lleolwyd y ffynnon yn Ogof Llech ar ochr ogledd orllewin y Gogarth. Yr unig ffordd ati o'r tir yw defnyddio rhaffau, o'r môr mewn cwch ac yna dringo hefo rhaffau. Mae'r ogof yn un ddiddorol gan bod ynddi waith cerrig go anghyffredin. Honnir mai dyma gell wreiddiol Sant Tudno pan symudodd i'r ardal o Fangor is y Coed yn ystod y 6g.

Ffynnon Llety Fadog[golygu | golygu cod]

53°20′12″N 3°51′21″E / 53.336607°N 3.855833°E / 53.336607; 3.855833 (Llety Fadog)

Cyfeirnod map:SH76528379.

Ffynnon Llety Fadog: un o'r ffynhonnau hanesyddol ar Ben y Gogarth. Ffynnon Rufeinig meddai rhai

Mae Ffynnon Llety Fadog, a elwir gan rai yn Ffynnon Rufeinig, i'w gweld ger fferm Dolfechan. Wrth gwrs, nid y ffynnon wreiddiol sydd yma—mae'n debyg bod honno yn tu ôl i'r wal. Y ffordd hawsaf o gyrraedd y ffynnon yw gyrru i fyny'r Gogarth, heibio gorsaf hanner ffordd y tram, ac yna troi i'r dde. Ar ol croesi'r trac fe welwch safle parcio. Oddi yno gallwch ddilyn y llwybr at y wal. Gerllaw mae olion tebyg i'r hyn a elwir yn Gytiau Gwyddelod sy'n dangos bod dyn wedi byw ar y Gogarth filoedd o flynyddoedd yn ôl. Mae yna hefyd olion o aredig cynnar. Roedd rhaid cael dŵr ac mae'n debyg mai oherwydd y ffynnon y sefydlwyd cartrefi yma. Er gwaethaf yr enw' Ffynnon Rufeinig', dywed rhai nad oes a wnelo'r Rhufeiniaid ddim oll â'r ffynnon! Mae Ffynnon Llety Fadog mewn cilfach yn y wal fodern. Mae'r tŵr yn codi mewn cist o gerrig tua thair troedfedd wrth ddwy ac nid yw'n fawr mwy na chwe modfedd o ddyfnder. Uwchben y ffynnon mae cilfach yn y gwaith cerrig ac am flynyddoedd lawer bu cwpan ar gadwyn yn cael ei gadw yno er mwyn galluogi'r sawl a ddymunai i yfed o'r dŵr. Go brin y gallai neb wneud hynny heddiw gan ei fod yn ferddwr gwyrdd tywyll. Ar y mur uwchben y ffynnon mae maen sgwâr wedi ei osod yn y gwaith cerrig. Ond pwy oedd y Madog yma? Gallai fod yn Madog o Gloddaeth neu ei dad, Madog ab Iorwerth Goch o Greuddyn oedd yn wr o bwys yn y 13g. Y Gogarth oedd ei 'ranch' ceirw ac mae rhan o'r Gogarth yn cael ei galw'n 'Hwylfa'r Ceirw hyd heddiw. Yn ôl John Roberts, mewn erthygl yn y 'Llandudno Advertiser yn 1909, roedd y Rhufeiniaid yn golchi eu copr ar y safle yma.

Ffynnon Tudno[golygu | golygu cod]

53°20′12″N 3°50′52″E / 53.336643°N 3.847724°E / 53.336643; 3.847724 (Ffynnon Tudno)

Ffynnon Tudno: Nid yw hon nepell o Eglwys Sant Tudno, ond rhaid cofio ei bod ar dir preifat

Cyfeirnod map: SH77068378

Mae'r ffynnon ganllath o'r eglwys i'r de-ddwyrain. Yma mae'r tir yn serth a thyfiant trwchus o eithin a choed drain yn gorchuddio'r llechwedd.

Yn Ionawr 2012 aeth Tom Parry a minnau i chwilio am y ffynnon. Rhaid pwysleisio bod hon ar dir preifat, ond cafodd Tom ganiatad parod y ffermwr i ni ymweld. Er bod Ffynnon Tudno yn weddol agos at yr eglwys, rhaid oedd cerdded tipyn o ffordd ar hyd llwybr cyhoeddus i gyfeiriad Fferm Penmynydd, heibio Ffynnon Powell, cyn cyrraedd giat i dir y fferm, ac yna cerddedd yn ôl ar draws caeau. Cawsom dipyn o drafferth i ddarganfod y ffynnon! Wrth lwc, 'doedd yna ddim gwaith clirio!

Beth oedd yno ond dŵr budr mewn cafn o frics modern. Rhywbeth wedi ei adeiladu i wartheg gael yfed ohono oedd hwn! Roedd perchennog y tir, Mr John Jones, wedi dweud bod yn well gan ei wartheg yfed y dŵr o Ffynnon Tudno nag unrhyw ddŵr arall. Yn amlwg, roedd y dŵr yn llifo i'r cafn o'r graig ond roedd tyfiant yn gorchuddio pob man. Mae wedi ei hadeiladu mewn cilfach yn y graig, yn mesur tair troedfedd o hyd a dwy droedfedd a chwe modfedd o led. Gosodwyd carreg fawr, tua thair troedfedd o uchder dros y ffynnon. Mae'r dŵr oddeutu troedfedd o ddyfnder.”

Y Rheithor yn bendithio'r dwr

Yn 2008, ar Fehefin 5ed., sef Dydd Sant Tudno, trefnwyd pererindod at y ffynnon gan ddeg o eglwyswyr yr ardal. Er gwaetha'r glaw trwm, cynhaliwyd gwasanaeth byr wrth y ffynnon gan y Rheithor. Bendithiwyd y dŵr oedd â nifer o benbyliaid yn nofio'n braf ynddo! Marciwyd croes ar dalcen pob pererin gyda dŵr o'r ffynnon (heb y penbyliaid!) a thywalltwyd peth ohono i'w dwylo cwpanog.

Pwy oedd Tudno? Mab Seithennyn ap Seidi, mab i un o Dywysogion Dyfed. Brawd i Gwynhoedl, Senewyr a Tudglyn. Yn ôl y chwedl, roedd wedi dianc o Gantre'r Gwaelod pan foddwyd y lle ac wedi symud i Fynachdy Bangor is y Coed. Oddi yno symudodd i fyw mewn cell yn Ogof Llech ar y Gogarth. Yna, adeiladodd gell ger Ffynnon Tudno.

Mae'r ffynnon yma'n bwysig yn ein hanes lleol, ac mae'n resyn nad oes ond ychydig iawn o bobl wedi gallu ei gweld.

Ffynnon Powel[golygu | golygu cod]

53°20′05″N 3°50′51″E / 53.3347°N 3.847508°E / 53.3347; 3.847508 (Ffynnon Powel)

Ffynnon Powel, digwyddodd gwyrth ynglŷn â'r ffynnon yma

Hon, mae'n debyg, yw un o'r ffynhonnau mwyaf diddorol sydd ar yr Orm. With gerdded y llwybr o Penmynydd i Eglwys Tudno Sant, ac wrth ddod i olwg yr Eglwys, fe ddowch at dderbynnydd gyda dŵr yn llifo o biben iddo, a chwpan haearn at bwrpas ei defnyddio i yfed, — dyma Ffynnon Powel.

Bu hon yn ffefryn gan yr hen drigolion a chludid ei dyfroedd at wasanaeth y tai ac fel dŵr yfed. Mae'n hysbys y byddai llawer o drigolion y dref wrth gerdded y llwybr hwn, bob amser yn drachtio dŵr y ffynnon hon. Pam y cafodd yr enw 'Powel', tybed? Ai gŵr o'r enw hwn a'i darganfyddodd? A dderbyniodd o iachad o rhyw glwy' wrth ddefnyddio'i dŵr? Y gwir yw y gelwid hi wrth yr enw ers cenedlaethau lawer. Diddorol dros ben yw'r hen draddodiad a gadwyd yn fyw ymhlith trigolion Llandudno... Flynyddoedd yn ôl, ger y llecyn y saif y ffynnon, roedd amaethwr bychan o'r enw Powel a'i deulu'n byw. O archwilio'r safle canfyddir yno olion hen adeiladau; mae hyn i raddau yn cadarnhau y stori. Fodd bynnag, un haf, oherwydd prinder glaw, roedd sychder mor llym, nid yn unig fe ddioddefodd y gwartheg a'r defaid, ond profodd teulu'r Poweliaid hefyd gryn orthrwm. Oherwydd rhyw anghydfod gwrthododd y cymdogion helpu'r teulu hwn i gael cyflenwad o ddŵr; fe'u rhybuddiwyd ar boen eu bywyd i beidio mynd ar gyfyl yr un ffynnon ar yr Orm. Yn wyneb hyn roedd y teulu druan mewn cryn helbul. Ystyrrid y teulu hwn yn bobol dduwiol a chrefyddol. Wedi ystyried y sefyllfa'n ddwys, dyma nhw'n penderfynu gweddio ar Dduw am ymwared. Gadawodd y teulu cyfan eu cartref a mynd i Eglwys Tudno Sant gerllaw gan weddio am gymorth dwyfol yn eu hargyfwng. Dychwelasant i'w cartref a chalonnau trist. . . ond 'rol cyrraedd — er mawr lawenydd iddynt — roedd ffynnon o ddŵr bendigedig yn tarddu gerllaw rhiniog y tŷ. Roedd eu llawenydd y diwrnod hwnnw'n ddihysbydd, a glynodd yr enw 'Powel' ar y ffynnon hyd heddiw.

Ffynnon Galchog[golygu | golygu cod]

53°20′08″N 3°50′16″E / 53.3356°N 3.8379°E / 53.3356; 3.8379 (Ffynnon Galchog)

Ffynnon Galchog, profwyd bod hon wedi ei defnyddio i olchi copr

Cyfeirnod map: SH77758367

Ffynnon arall sydd â hanes diddorol yn perthyn iddi yw Ffynnon Galchog ger Mynydd Isaf ac i'r gogledd o Pen Dinas. Dydy hon ddim yn un hawdd i ddod o hyd iddi!

Y ffordd hawsaf yw gyrru i fyny'r Gogarth cyn belled â'r grid gwartheg sydd gyferbyn â Ffordd Sant Beuno. Ar ôl parcio troi i'r dde a dilyn y llwybr heibio Penmynydd Isaf. Yn ystod Chwefror eleni bum yn gweld y ffynnon yng gnhwmni Tom Parry. Yn 1997 sylwodd David Chapman, cerflunydd efydd lleol, bod wyneb craig, ychydig islaw Ffynnon Galchog, yn cynnwys siarcol, darnau o esgyrn a slag copr. Llwyddodd i gael grant gan CADW i dyllu yn y fan. Codwyd darnau o fetal copr, 'malachite' a 'chalcopyrite' a llwyddwyd i brofi eu bod yn dyddio o 1580 CC.

Profwyd bod dŵr o'r ffynnon wedi cael ei ddefnyddio i olchi copr bryd hynny. Hefyd, cyn hynny, yn 1990, roedd Andy Lewis wedi darganfod darnau o forthwylion cerrig, esgyrn a siarcol ar y safle.

Roedd cael cyflenwad digonol o ddŵr glân I ddibenion domestig yn dipyn o broblem i drigolion ‘Y Mynydd’, sef Y Gogarth Fawr, Llandudno, yn yr hen ddyddiau. Cario dŵr i fyny’r Gogarth mae’r bachgen ar gefn asyn yn y llun uchaf a dynnwyd tua 1910 (agorwch y ddolen i’w gweld [1]). Oherwydd mai calchfaen yw tir y mynydd a bod hwnnw’n dyllog, ‘roedd yn angenrheidiol i gario dŵr o ’Water Street’, yn agos at ble mae gorsaf y tram heddiw, ble ‘roedd yna ffynnon (Ffynnon Fictoria). Yr unig ffordd o wneud hynny oedd ei gario mewn caniau mawr. Yn yr ail lun mae’n debyg mai o Ffynnon Galchog mae’r gwr yma’n cario dŵr.[3]

Chwedl y dyn gwahanol
Chwedl y dyn anaturiol

Un pnawn yn y gaeaf, aeth bachgen ifanc, Rhys, a'i chwaer, Mair, i nôl dŵr o Ffynnon Galchog. Roedd yn dechrau tywyllu wrth i'r ddau adael y fan. Ar eu ffordd adref gwelodd y ddau rhyw ddyn dieithr yn cerdded tuag atynt. Wrth edrych arno gwelsant fod y dyn yn troelli' n gyflym yn ei unfan, yna newidiodd i fod yn fwdwl mawr o wair cyn rholio i lawr dros ochr y mynydd ac i'r môr! Rhai misoedd yn ddiweddarach, daliwyd clamp o bysgodyn mawr yn y bae ac wedi ei agor gwelwyd mwdwl o wair yn ei berfedd. Credai pawb mai'r un mwdwl â'r un a welodd y bachgen a'i chwaer yn troelli i lawr i'r môr oedd!

Ffynnon Wen[golygu | golygu cod]

53°19′42″N 3°50′13″E / 53.328402°N 3.837081°E / 53.328402; 3.837081 (Ffynnon Wen)

Cyfeirnod map: SH777828.

Ffynnon Wen, mae hon ar 'lwybr' Tram y Gogarth ar Old Road

Addasiad o nodiadau (Saesneg) John Roberts, Bryn Celyn, yn y Llandudno Advertiser ym 1909 sydd yma. Roedd Ffynnon Wen yn 'Old Road' Llandudno. Mae Tram y Gogarth yn dilyn y ffordd yma o'r orsaf yn Church Walks hyd at y Giat Ddu. Yn y 18g gosododd gŵr lleol 'ffowntan' yn y wal ar ochr dde'r ffordd rhyw 30 llath o gyffordd Tabor Hill. Roedd y ffowntan yma i fod i gael ei dŵr o Ffynnon Wen, ond gyda'r holl dyllu wrth adeiladu'r ffordd a thrac y tram newidiwyd cwrs y ffynnon. Bellach mae'r dŵr yn codi o'r ddaear rhyw 20 llath yn is na'r ffowntan ar ochr arall y ffordd! Credir bod y ffynnon wreiddiol yn llawer uwch i fyny'r Gogarth tua Pen Dinas. Roedd Pen Dinas yn gaer cyn cyfnod y Rhufeiniaid a chredir mai o Ffynnon Wen y byddent yn cael dŵr. Hefyd, credai John Roberts, gan fod 'Carreg Siglo' gerllaw y byddai'r derwyddon yn defnyddio dŵr o'r ffynnon ar gyfer eu defodau ac i'r ffynnon gael yr enw Ffynnon Wen fel symbol o burdeb.

Ffynnon Fictoria[golygu | golygu cod]

53°19′39″N 3°50′13″E / 53.327503°N 3.837043°E / 53.327503; 3.837043 (Ffynnon Fictoria)

Cyfeirnod map: SH777827

Safle Ffynnon Fictoria, ble mae Water Street, a welir yn y llun, heddiw

Dyma sut y disgrifiwyd y ffynnon ym 1909 gan John Roberts yn y 'Llandudno Advertiser': “Lleolwyd hon ar ochr orllewinol y man lle y mae Gorsaf Tram yr Orm yn Llandudno. Mae hi'n ffynnon ddofn a chanddi gyflenwad helaeth o ddŵr. Ar un adeg yn hanes Llandudno byddai'r ffynnon hon yn cyflenwi anghenion y gymuned.”

Yr orsaf bwmpio ar gyfer Ffynnon Fictoria

Cawn y cofnod canlynol yng ngweithrediadau Hen Fwrdd y Comisiynwyr mewn cyfarfod a gynhaliwyd 24 Medi 1855, — "John Hughes was engaged at 15s per week until the 1st of Tachwedd next to pump water from Victoria Well for the public, to pump for three hours in the morning and the same in the afternoon, 2s - 6d to be allowed for an extra man on Saturday to help him." “Deallwn mai yr uchod oedd y diweddar John Hughes, Cambria a oedd yn adnabyddus am flynyddoedd lawer fel porter yn y dref. Gellir nodi bod tarddiad cryf o ddŵr yn y ffynnon hon, a mwy na thebyg bod yr un sbring yn cyflenwi ffynnon a ddefnyddid yn aml gan drigolion y dref, — y tu ôl i London House, 'Old Road', a hefyd ffynnon arall a leolid yng nghefn Capel Seilo, a'i henw oedd Ffynnon Tŷ'n-y-Pwll.”

Ffynnon yr Odyn[golygu | golygu cod]

53°19′26″N 3°50′29″E / 53.323840°N 3.841390°E / 53.323840; 3.841390 (Ffynnon yr Odyn)

Cyfeirnod map: SH774823.

Ffynnon yr Odyn, gelwid hefyd yn Ffynnon Siafft yr Odyn. Bellach dyma safle Ysgol San Sior

Roedd Ffynnon yr Odyn ar safle ty or enw Creigle yn Church Walks, Llandudno. . Gelwid hi hefyd gan rai yn Ffynnon Siafft yr Odyn. Dyma sut yr ysgrifennodd John Roberts, Bryn Celyn (yn Saesneg) yn y Llandudno Advertiser, Tachwedd 13, 1909: “Tu ôl i Creigle, erstalwm 'roedd chwarel galch a defnyddid y galchfaen ar gyfer adeiladu, a'r calch ar gyfer trin y tir. Hefyd, 'roedd yna hen siafft gopr, ac wedi iddi orffen gael ei defnyddio ar gyfer y pwrpas hwnnw fe lanwodd â dŵr (tua 37 troedfedd o ddyfnder) a'i throi'n ffynnon! “Cliriwyd y safle ac adeiladwyd ysgol newydd Sant Sior ar y safle ddechrau'nawdegau. Y bwriad ar y pryd oedd diogelu'r ffynnon, ond oherwydd pryderon am iechyd a diogelwch, bu'n rhaid clirio'r ffynnon yn ddiweddarach. Yn y llun, rydw i wedi ceisio ail-greu'r ffynnon. Fel hyn yr ysgrifennodd gŵr o'r enw Thomas Rowlands yn ei atgofion am Llandudno fel ag yr oedd tua 1840: “…. yn agos i'r fan lle y saif Plas Gogarth yn bresennol, yr oeddym yn troi i fyny y ffordd oedd yn arwain at " Ffynnon yr Odyn," ac o'r ffynnon hon yr oedd llawer o'r trigolion yn cael dwfr at eu gwasanaeth. Ychydig yn uwch i fyny, ar ymyl yr un ffordd, yr oedd yr odyn, oddi ar ba un yr oedd y ffynnon yn cael ei galw. Odyn galch ydoedd wedi ei chodi at wasanaeth amaethdy y Ty Draw. Yn yr amaethdy yma y byddai gweinidogion a phregethwyr y Methodistiaid Calfinaidd yn gwneud eu cartref, ac yr oeddynt bob amser yn cael derbyniad croesawgar, wyneb-siriol, a chartref llawn gan David a Margaret Jones.”

Ffynnon Tŷ'n y Pwll[golygu | golygu cod]

53°04′18″N 3°49′21″E / 53.071640°N 3.822623°E / 53.071640; 3.822623 (Tŷ'n y Pwll)

Cyfeirnod map: SH77985426

Ffynnon Tyn Pwll, ar safle Eglwys Seilo, ar gornel Rhodfa Arfon a Stryd Gloddaeth

Ar y safle lle mae Eglwys Unedig Gymraeg Llandudno heddiw roedd Ffynnon Tŷ'n y Pwll ar y tir sydd ar gornel Stryd Gloddaeth a Rhodfa Arfon heddiw. Mae'r ffynnon wedi diflannu erbyn hyn. Yn ôl y diweddar Glyn Davies 'Yng nghyffiniau'r capel flynyddoedd yn ôl arferid llwytho llongau â channoedd o dunelli o lwtra copr. Wrth gysylltu hyn â'r ffaith y byddai claddfa Rufeinig mewn twmpath ar safle ble mae Stryd Madog heddiw, y mae'n rhesymol i dybio y byddai math o ganolfan gopr Rufeinig enfawr yn y cynoesau ar y tir ble saif Capel Seilo heddiw.' Defnyddid dŵr o Ffynnon Tŷ'n y Pwll i olchi'r copr. Teg yw nodi nad yw pob hanesydd yn cytuno bod y Rhufeiniaid wedi bod yn ardal Llandudno!

Ffynnon Haulfre[golygu | golygu cod]

O dan cegin Caffi Gerddi Haulfre 'roedd safle Ffynnon Haulfre

Ar y 7fed o Dachwedd, 2017, derbyniwyd gwybodaeth am ffynnon arall sydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn, Ffynnon Haulfre. Roedd hon ar safle tu mewn i ble mae Caffi Gerddi Haulfre heddiw. Dywedir ei bod o dan llawr y gegin, ac ar un adeg roedd yna dwnnel bychan i mewn i'r graig oedd yn terfynu mewn siafft ac o honno cododd ffynnon. Amser maith yn ôl collodd bachgen ifanc ei fywyd yno a phenderfynwyd cau'r twnnel. Roedd Gerddi Haulfre erstalwm yn llawer mwy o arwynebedd nag y mae nawr, ac fe fuasai angen dŵr y ffynnon i ddyfrio'r planhigion.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Llandudno Advertiser 1909
  2. Y Pentan
  3. Gareth Pritchard ym Mwletin Llên Natur rhifyn 50
  • Cyhoeddwyd nifer o'r testunau hyn gan Gareth Pritchard mewn amryw o gyhoeddiadau. Cydnebir hefyd Tom Parry, am ei gymorth wrth ddatblygu'r erthygl hon.